Byw Mewn Llety yn Aberystwyth
Llety’r Brifysgol
Y pethau gwirioneddol dda am Lety Prifysgol Aberystwyth yw:
- Sicrwydd o lety yn y flwyddyn gyntaf : mae pob un o fyfyrwyr y Deyrnas Unedig sy’n gwneud cais erbyn y dyddiad cau priodol yn sicr o gael llety yn y Brifysgol yn eu blwyddyn gyntaf;
- Ansawdd : mae’r Brifysgol wedi gwario dros £20 miliwn yn ddiweddar wrth uwchraddio ei llety er mwyn bodloni chwaeth dethol myfyrwyr;
- Amrywiaeth : arlwyo neu hunanarlwyo; en-suite neu rannu adnoddau; mewn coridor mewn fflat: mae’r holl ddewisiadau hyn ar gael yn ogystal ag ystod o brisiau sy’n adlewyrchu’r adnoddau ymhob un;
- Lleoliad : mae’r rhan fwyaf o’r llety o fewn taith gerdded hawdd iawn i’r darlithoedd, y llyfrgelloedd a’r canolfeydd hamdden; a’r cwbl mewn lleoliad hardd iawn;
- Adnoddau : mae cyswllt â’r rhyngrwyd i’w gael ymhob llety a’i bris wedi ei gynnwys yn y rhent;
- Cefnogaeth : mae myfyrwyr h ŷ n ac eraill yn cynnig cefnogaeth fugeiliol yn y lletyau i helpu myfyrwyr ymgartrefu a chynnal ysbryd cymunedol da yn y neuadd.
Mae llety Prifysgol Aberystwyth wedi ei brisio’n gystadleuol.
Fe welwch fod prisiau llety myfyrwyr yn debyg i’r rhan fwyaf o Brifysgolion; ond rhaid edrych bob amser beth sydd wedi ei gynnwys yn y pris: sawl wythnos sy’n gynwysedig, a oes rhaid i’ch plentyn symud ei eiddo allan adeg y Nadolig a’r Pasg, a yw’r cyswllt rhyngrwyd yn gynwysedig, ac yn y blaen.
Gwyliwch fideo am lety ym Mhentre Jane Morgan, sef pentref myfyrwyr preswyl Aberystwyth.
Darllenwch ein Canllaw i Lety yn y Sector Preifat .
Llety sector preifat yn Aberystwyth
Y mae cyflenwad rhagorol o lety i’w rentu yn y dref. Mae Swyddfa Llety’r Brifysgol yn cadw rhestr o landlordiaid cymeradwy, rhai yr ydym wedi eu cael yn ddibynadwy dros y blynyddoedd. Mae’r Swyddfa hefyd yn darllen dros unrhyw gontract rhentu cyn i’ch plentyn ei arwyddo er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag arferion da.
Darllenwch ein Canllaw i Lety yn y Sector Preifat.Canllaw i Lety yn y Sector Preifat. Cafodd ei ysgrifennu gan James, un sydd wedi graddio yn Aberystwyth yn ddiweddar, felly mae wedi ei wreiddio yn y profiad o fod yn fyfyriwr yn Aberystwyth; ond y mae’n llawn o gyngor da sy’n berthnasol i lety myfyrwyr yn unrhyw le.
Nôl i flaenddalen Rhwng Rhieni .