Safonau Academaidd
Traddodiad o Ragoriaeth
Aberystwyth oedd y cyntaf o golegau Prifysgol Cymru. Ysgogwyd ei sylfaenwyr gan y penderfyniad y dylai Cymru gael Addysg Uwch ragorol, cystal ag unrhywbeth yn unrhywle arall yn y Deyrnas Unedig. Y traddodiad hwn o allu ymgyrraedd at ragoriaeth academaidd yw’r hyn sy’n dal yn sylfaen i agwedd y Brifysgol tuag at ddysgu ac addysgu.
Ar y lefel hon, rhaid defnyddio pedwar maen prawf i farnu safonau academaidd:
Ansawdd yr Addysgu
Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2009, dywedodd 89% o fyfyrwyr Aberystwyth fod yr addysgu ar eu cwrs yn Dda neu well, gan roi Prifysgol Aberystwyth yn 22ain o blith dros 200 prifysgol a arolygwyd yn y DU.
Ansawdd yr Ymchwil
Mae angen i’r rhai sy’n addysgu mewn Prifysgolion fod ar reng flaen eu disgyblaeth, lle mae’r gwaith arloesol yn digwydd. Bydd eich plentyn yn cael ei ddysgu gan academyddion sydd ar flaen eu maes ymchwil. Wrth i ni ysgrifennu, mae academyddion Aberystwyth yn arwain ymchwil yn y meysydd isod, yn ogystal â llawer iawn iawn rhagor o feysydd:
- mapio cyfansoddiad mineralaidd y lleuad trwy gyfrwng data o gamera pelydr-X mewn cylchdro o amgylch y lleuad;
- gweithio gyda gwleidyddion a diplomyddion i osod seiliau i nod a gyhoeddodd yr Arlywydd Obama o symud tuag at fod yn ddi-niwclear;
- datblygu bio-danwydd cynaliadwy y gellir eu tyfu ar dir na fyddai’n cael ei ddefnyddio fel arall i dyfu cnydau.
Darllenwch am ragor o’n Newyddion Ymchwil
Graddfa Cwblhau
Y raddfa cwblhau mewn Prifysgol yw canran y myfyrwyr sy’n cwblhau eu cynllun gradd. 87.5% yw’r raddfa cwblhau yn Aberystwyth, sy’n ei roi ymhlith traean uchaf Prifysgolion y DU.
Cymorth wrth Ddysgu
Y cymorth wrth ddysgu, yn anad dim, sy’n gwneud y raddfa trosi yr hyn yw hi.
Yn y lle cyntaf mae gan fyfyrwyr y tiwtor sy’n dysgu’r cwrs –ac, fel y gwelsoch eisoes, barn ein myfyrwyr yw bod rhain yn diwtoriaid arbennig iawn iawn.
Yn ail, wrth i’ch plentyn ddod i arfer â bywyd annibynnol, fe fydd ef neu hi yn cael Tiwtor Personol i roi cymorth iddynt am y cwrs cyfan, gan ddelio â materion an-academaidd hefyd – sydd mewn gwirionedd yn llawer mwy tebygol o achosi i fyfyriwr beidio â chwblhau nag yw diffyg sgiliau academaidd.
Yn drydydd, mae yna staff penodol i roi Cymorth wrth Ddysgu: arbenigwyr wrth ddysgu sgiliau sylfaenol, e.e. paratoi traethawd, ond hefyd wrth gynorthwyo myfyrwyr sydd Anghenion Dysgu Arbennig.
Os ydych chi o’r farn fod ar eich plentyn angen cymorth arbenigol o unrhyw fath, cysylltwch â Gwasanaeth Cymorth Myfyrwyr Aberystwyth ar unrhyw adeg: byddwn yn fwy na pharod i drafod gyda chi.