Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Dim ond ers rhai blynyddoedd mae’r rhan fwyaf o Brifysgolion wedi dechrau cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau, ers i’r Llywodraeth gyflwyno ffioedd atodol a rhoi cyfrifoldeb i’r Brifysgol i sefydlu cynlluniau lle gallai myfyrwyr wneud i fyny rai o’r costau. Ond yn Aberystwyth rydym wedi cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau ers degawdau: dyna pam, yn ôl y Guardian, ein bod yn cynnig yr ystod gorau o ysgoloriaethau a bwrsariaethau yn y Deyrnas Unedig .
Mae ein bwrsariaethau’n adlewyrchu’r gwerth sydd yng nghydbwysedd a chyfanrwydd y profiad o fod yn Aberystwyth yn ein golwg ni. Mae yma ysgoloriaethau am gyflawniad academaidd; bwrsariaethau rhagoriaeth i fechgyn a merched sy’n arbenigo mewn chwaraeon; bwrsariaethau perfformio ar gyfer cerddorion; ond mae yna hefyd fwrsariaethau cymorth imyfyrwyr o gefndir tlotach; bwrsariaethau sylweddol i rai sy’n gadael gofal; gostyngiadau llety ar gyfer myfyrwyr sy’n ymrwymo yn gynnar i Aberystwyth.
Gall, ac y mae, bwrsariaethau Aberystwyth wneud gwahaniaeth go iawn i lawer o fyfyrwyr a’u rhieni.
Costau Byw Isel
Mae Aberystwyth yn y 25% isaf yn y D.U. o ran costau byw.
- Bydd eich mab neu ferch yn gallu manteisio ar lety myfyrwyr cystadleuol ei bris yn y Brifysgol ac yn y dref.
- Bydd ei gostau teithio yn ddim, neu'r nesaf beth at ddim, gan fod popeth o fewn taith gerdded - a thaith gerdded ddiogel at hynny.
- Y mae holl economi Aberystwyth wedi ei anelu at farchnad y myfyrwyr sy’n golygu bod dewisiadau rhatach wastad ar gael, am hanfodion byw a gwario ar hamdden.