Trwf Mwyaf Poblogaidd Myfyrwyr y DU
Lleoliad, lleoliad, lleoliad
Os nad ydych chi wedi bod i Brifysgol Aberystwyth o’r blaen, mae croeso cynnes i chi ymweld â ni. Fe wyddoch yn iawn am yr hyn sydd gan y lle i’w gynnig. Yma fe welwch ganolfan o ragoriaeth academaidd a phwysigrwydd diwylliannol a masnachol: y Brifysgol gyntaf i’w sefydlu yng Nghymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru; prif ganolfan Cymru i’r Celfyddydau – a llawer mwy.
Tref myfyrwyr fwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig
Aberystwyth yw tref myfyrwyr fwyaf poblogaidd y D.U. oherwydd dyna’n union yw hi: tref myfyrwyr. Efallai eich bod chi yn gyfarwydd â - efallai eich bod yn byw mewn! - tref neu ddinas lle mae yna dyndra rhwng pobl leol a myfyrwyr. Dydy hynny ddim yn digwydd yma. O’r dechrau un mae pobl Aberystwyth wedi bod yn falch o’u Prifysgol - a dyna sut maen nhw’n meddwl amdani. O’n rhan ni, rydyn ni’n falch o’r cenedlaethau o fyfyrwyr sydd wedi cynnal cyfeillgarwch â thref Aberystwyth.
Mae Aberystwyth hefyd wrth gwrs yn gyrchfan gwyliau ac yn ganolfan masnach a diwylliant ar arfordir gorllewinol Cymru. Mae’r cyfuniad hwn o ganolfan fasnachol a diwylliannol gydol y flwyddyn, tre fyfyrwyr yn ystod y tymor a thref gwyliau yn ystod y gwyliau, yn golygu bod yna bob math o leoliadau ar gyfer pob chwaeth a phoced.
Mae yna glybiau da, tafarnau di-ri, bwytai amrywiol, sinemâu, lleoliadau cerddorol a theatrig, orielau ac amgueddfeydd: a dyna'r hwyl sydd i’w gael o dan do! Mae’r môr, y traethau a’r mynyddoedd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer hamdden ac ymlacio.
Y mae hefyd yn lleoliad diogel iawn.
Yn ôl Ystadegau Trosedd y DU ym mis Mehefin 2009, gan Geredigion yr oedd graddfa isaf trosedd y pen unrhyw le yng Nghymru neu Lloegr.
Cewch farn ddiduedd am Aberystwyth fan hyn .
Darllenwch am un myfyriwr a syrthiodd mewn cariad ag Aberystwyth: Messias Lumingo .
Bywyd Myfyrwyr ar y Campws
Yn ogystal â’r hyn sy’n digwydd yn y dref, mae campws y Brifysgol yn dod ag adnoddau academaidd o’r safon uchaf, llety myfyrwyr rhagorol, canolfan gelfyddydau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, adnoddau chwaraeon dan do ac awyr agored, ac adeiladau Undeb y Myfyrwyr ynghyd: mae’r cwbl o fewn taith gerdded i’w gilydd ar gampws hardd ar ochr rhiw Penglais sy’n edrych i lawr dros y dref a’r bae.
Profiad Cytbwys
Mae yna gydbwysedd gwych i fywyd myfyrwyr yma: cydbwysedd rhwng gweithgarwch a chwaraeon dan do ac awyr agored; rhwng chwaraeon a gweithgaredd artistig; canran fwy neu lai gyfartal o fyfyrwyr gwrywaidd a benywaidd; ac, yn hollbwysig, cydbwysedd rhwng astudio a hamdden.
Mae ein myfyrwyr yn hapus nid yn unig am eu bod yn cael amser ei bywyd mewn tref ardderchog: maent yn hapus oherwydd bod 93% ohonynt yn cwblhau eu gradd yn llwyddiannus. Yr hyn sy’n ganolog i brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth yw cadw cydbwysedd rhwng gwaith a hamdden: mae’r ystadegau i gyd yn dangos bod hyn yn creu ffordd hynod iach o fyw i fyfyrwyr.