Parcio i Fyfyrwyr

Cyn dod i astudio yn Aberystwyth, cofiwch, er y gall car ymddangos fel yr opsiwn hawdd, gall costau cynnal a chadw car fod yn ddrud iawn. Allech chi deithio drwy ddull arall? Hefyd, dim ond swm penodol o drwyddedau y gallwn eu cynnig, felly fe’ch cynghorir i beidio â dod â char os nad yw’n gwbl angenrheidiol. Bydd y trwyddedau parcio ar ffurf sticeri i'w rhoi ar ffenestri. Bydd angen gallu gweld eich trwydded naill ai yn ffenestr flaen neu yn ffenestr gefn eich cerbyd, neu ar unrhyw arwyneb amlwg ar feic modur.

Gweler yr wybodaeth isod o ran parcio i fyfyrwyr:

Pwy fydd yn gymwys?

Gall myfyrwyr cofrestredig wneud cais am drwydded:

  • Os ydych chi’n byw yng Nghwrt Mawr, Rosser, Trefloyne, Pentre Jane Morgan, neu Fferm Penglais.
  • Os ydych chi’n byw ym Mhantycelyn – noder: dim ond 55 o leoedd sydd ar gael, ac fe’u rhoddir ar sail y cyntaf i'r felin.
  • Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n cymudo gyda chyfeiriad yn ystod y tymor sydd 3 milltir neu fwy o gampws Penglais.
  • Os ydych chi’n ddaliwr bathodyn glas anabl.

 

Noder: bydd pob trwydded yn cael ei gwirio yn erbyn ein rhestr Preswylfeydd. Os canfyddir eich bod wedi ein camhysbysu’n fwriadol o'ch cyfeiriad yn ystod y tymor, gall eich trwydded barcio gael ei therfynu a byddwch yn cael ad-daliad ar gyfer swm y drwydded namyn ffi weinyddol o £20. Gall gymryd hyd at 28 diwrnod i ni brosesu eich ad-daliad. 

Proses i wneud cais am drwydded

Bydd trwyddedau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon (2023-24) ar gael i'w prynu drwy'r siop ar-lein o ddydd Llun 14 Awst 2023. Gellir prynu trwyddedau ymlaen llaw neu wedi i chi gyrraedd. Dewiswch yr opsiwn priodol i brynu eich trwydded:

Bydd trwyddedau a gyhoeddwyd ar gyfer sesiwn 2023-24 yn ddilys o 1 Medi 2023 tan 31 Awst 2024. Fodd bynnag, os ydych yn byw yn llety’r Brifysgol bydd y drwydded yn terfynu yn unol â dyddiad terfynu cytundeb eich trwydded llety. 

Casglu fy nhrwydded

Bydd eich trwydded newydd ar gael i'w chasglu o 2 Hydref 2023 ymlaen yn nerbynfa Cwrt Mawr L rhwng 10.00yb - 4.00yp.

Ar ôl y dyddiad hwn, bydd staff diogelwch yn patrolio’r meysydd parcio ac yn dosbarthu hysbysiadau parcio fel ag y bo’n berthnasol. 

Cost trwydded barcio

Mae taliadau parcio'n cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Adnoddau a Pherfformiad y Brifysgol ac fe gânt eu hadolygu'n flynyddol. Costau parcio ar gyfer y sesiwn academaidd hon yw:

Ceir Beic modur Deiliaid bathodynnau glas
£41.60 £21.20 Am ddim

Rhaid dychwelyd trwyddedau myfyrwyr nad oes eu hangen mwyach a byddant yn cael eu had-dalu pro rata, namyn tâl gweinyddol. Ni fydd trwyddedau sydd wedi eu rhoi dros 6 mis yn cael eu had-dalu. Ni fydd trwyddedau gyda llai na 5 mis tan y dyddiad dod i ben yn cael eu had-dalu. 

Ymwadiad: Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw'r hawl i adolygu'r ffioedd yn flynyddol, a allai arwain at gynnydd mewn prisiau. 

Lleoliadau meysydd parcio

Gallwch barcio yn yr ardaloedd parcio dynodedig sydd i'w gweld ar Fap parcio Penglais a Llanbadarn. Mae parcio neuaddau myfyrwyr wedi'i farcio mewn porffor.

Os ydych wedi dewis trwydded ddibreswyl ac felly'n cymudo mwy na thair milltir i'r brifysgol, y maes parcio sydd yn addas I chi yw Pentre Jane Morgan.

Parcio heb drwydded

Bydd unrhyw gerbydau sy'n mynd yn groes i Reoliadau Parcio'r Brifysgol, yn cael rhybudd yn y lle cyntaf. Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r rheolau am yr eildro, bydd Hysbysiad Tâl Parcio yn cael ei roi ar ffenestr flaen y cerbyd. Y tâl yw £80. Mwy o wybodaeth am Reoliadau Parcio'r Brifysgol. 

 

Oes angen trwydded arnaf i barcio ar Gampws Llanbadarn?

Mae angen trwydded i barcio ar gampws Llanbadarn. Mae trwyddedau myfyrwyr ar gael i'r rhai sy'n gorfod teithio mwy na 3 milltir bob dydd. Mae gan fyfyrwyr sydd eisoes â thrwydded neuadd yr hawl i barcio yn Llanbadarn hefyd. Nodwch mai dim ond yn yr ardaloedd dynodedig i fyfyrwyr y mae hawl gan fyfyrwyr barcio.