Amdanom Ni

Croeso i'r Adran Ffiseg

Mae traddodiad hir o addysgu Ffiseg a Seryddiaeth yn Aberystwyth ers sefydlu'r Brifysgol am y tro cyntaf yn yr Hen Goleg ar lan y môr ym 1872. 150 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i gynnig profiad addysgu a dysgu o safon uchel i'n myfyrwyr ac rydym ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ar gyfer pwnc Ffiseg a Seryddiaeth (Canllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times 2022). Mae 94% o'n myfyrwyr Ffiseg yn cytuno bod eu cwrs yn tanio eu diddordeb deallusol; 90% yw’r cyfartaledd i’r sector (ACF 2022).

Ein nod yw darparu addysg o'r safon uchaf mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol a chynnal ymchwil gydweithredol sy'n gystadleuol yn rhyngwladol mewn Ffiseg y Gofod, Ffiseg Defnyddiau a Ffiseg Cwantwm. Mae ein darlithwyr yn weithgar ym maes ymchwil, yn ymwneud â phrosiectau sy'n amrywio o ddyfeisio deunyddiau newydd ac offerynnau newydd i deithiau planedol ac astudiaethau arloesol o weithgaredd yr haul. Mae eu hymchwil yn bwydo i mewn i'w haddysgu fel y gallwch fod yn sicr y byddwch yn dysgu am y syniadau diweddaraf gan rai o'r arbenigwyr blaenllaw yn y DU yn eu meysydd.

Erbyn heddiw, cartref yr Adran Ffiseg yw un o'r adeiladau mwyaf trawiadol ar gampws Penglais, lle mae darlithfeydd, labordai, ystafelloedd astudio a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol wedi eu cydleoli. Drwy fuddsoddiadau diweddar, rydym yn parhau i gynnig awyrgylch addysgu ysgogol i fyfyrwyr o bedwar ban byd. Mae dros 300 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig bellach yn astudio yn yr adran.

Mae gradd mewn Ffiseg yn baratoad rhagorol ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd megis addysgu a pheirianneg yn ogystal â darparu'r cam cyntaf tuag at fod yn wyddonydd proffesiynol. Mae mwyafrif ein cyrsiau Ffiseg wedi'u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg, ac mae'r cwricwlwm yn eich galluogi i astudio cyrsiau ar y cyd ag adrannau eraill yn y brifysgol, ac arbenigo mewn meysydd megis ffiseg fathemategol ac astroffiseg. Mae ein holl gyrsiau anrhydedd sengl hefyd ar gael fel cyrsiau Meistr Integredig (MPhys ac MMath) ac mae rhai ar gael gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant, sy’n eich galluogi i gael dechrau da wrth ymuno â'r farchnad swyddi gystadleuol.

Mae'r adran yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae ganddi rôl arweiniol yn natblygiad y ddarpariaeth Ffiseg drwy'r Gymraeg.

Rydym yn annog y rhai sydd â diddordeb mewn astudio gyda ni i ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored neu Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr i weld beth sy'n gwneud Aberystwyth yn lle mor anhygoel i fyw a dysgu ynddo.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Adran.


Yr Athro Andrew Evans

Pennaeth Adran