Estyn Allan

Myfyriwr yn cyrdd dalek

Mae staff a myfyrwyr o'r Adran Ffiseg yn cydweithio fel rhan o ymdrech barhaus i ddod â gwyddoniaeth i'r gymuned ehangach, arddangos ein hymchwil arloesol, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn ffiseg.

O blanetaria dros dro ac archwiliadau diogelwch yn gyntaf amser real o ddiffygion ar yr haul ysblennydd drwy ein telesgopau i arolygon realiti rhithwir o dirwedd Mawrthaidd a'n hatgynhyrchiad maint llawn o'r Cerbyd Crwydro Mawrth, mae ein gweithgareddau estyn allan rhyngweithiol yn dod â gwyddoniaeth yn fyw ac yn cyfareddu cynulleidfaoedd o bob oed.

Ymgysylltu ag Ysgolion

Mae aelodau o’r adran yn aml yn rhyngweithio ag ysgolion lleol, yn y gobaith o ddifyrru ac addysgu mewn ysgolion a cholegau trwy gyflawni digwyddiadau â themâu amrywiol.

Cynigir y cyflwyniadau canlynol gan yr Adran Ffiseg. Maent yn sicr o ddifyrri’ch myfyrwyr.

Beth allwch chi ei wneud gyda gradd mewn Ffiseg?
Mawrth mewn delwedd rithwir 3D (clustffonau VR)
O Aberystwyth i’r Gofod 
Ffiseg yr Haul
Ymchwilio planedau eraill gan ddefnyddio robotiaid
Pam nad yw iâ yn suddo?

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw un o'n sgyrsiau neu os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â Tally Roberts (nar25@aber.ac.uk) neu Dr Rachel Cross (rac21@aber.ac.uk).

Clwb Roboteg

Cynhelir y Clwb Roboteg Aberystwyth gan aelodau o’r Adran, gyda chefnogaeth yr Infinity Exhibition: dyma glwb ar-ôl-ysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Hwb Estyn Allan

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau ar gael i athrawon, myfyrwyr a rhieni / gwarcheidwaid ar-lein yn yr Hwb Estyn Allan. Mae'r deunyddiau hyn, sydd wedi'u hanelu at amrywiaeth o grwpiau oedran, yn cynnwys arbrofion cartref, taflenni gwaith, prosiectau, heriau, pynciau ymchwil, gweminarau, posau, deunyddiau gwersi a mwy.

Amgueddfa Ffiseg

Mae’r Amgueddfa Ffiseg Brifysgol Aberystwyth yn adref i sawl darn o gyfarpar labordy hanesyddol a gafodd eu defnyddio gan gyn-fyfyrwyr cyn belled yn ôl â diwedd y bedwerydd ganrif ar bymtheg, gydag ambell un sy’n hŷn byth. Mae’r casgliad yn cynnwys o bosib yr arbrawf sydd wedi bod yn rhedeg am yr amser hiraf erioed, sef yr Arbrawf ‘Pitch Drop’ a gafodd ei gychwyn gan G. T. R. Evans ar y 23 Ebrill 1914. Gellir weld detholiad o eitemau yn yr arddangosfa yn y cyntedd o’r adeilad Gwyddorau Ffisegol. Gweler restr gyflawn o’r casgliad yma.

Trio Sci Cymru

Mae adran Ffiseg Aberystwyth yn falch o fod yn bartner yn narpariaeth prosiect Trio Sci Cymru. Mae Trio Sci Cymru wedi cynllunio cyfres o weithdai sy'n rhoi llwyfan i'r wyddoniaeth ddiweddaraf yn astudiaethau'r gofod er mwyn ysbrydoli pobl ifainc o bob gallu i ddatblygu eu medrau gwyddonol er mwyn archwilio bydoedd eraill. Yn y gweithdai bydd y myfyrwyr yn dylunio cyrch i'r blaned Mawrth, yn cynllunio amserlen diwrnod ar gyfer cerbyd crwydro archwiliol, a darganfod sut mae rocedi yn teithio drwy'r gofod yn glanio ar blaned bell. Dros y blynyddoedd nesaf bydd cyrchoedd gwyddonol go iawn yn archwilio'r Haul a Mawrth, ac yn chwilio am blanedau sy'n cylchdroi o amgylch sêr eraill. Bydd ein sesiynau yn helpu rhoi'r gweithgareddau arallfydol hyn yng nghyd-destun cwricwlwm gwyddoniaeth yr ysgol, yn ysbrydoli'r disgyblion mewn amgylchedd a fydd yn llawn sbort ac yn tanio eu diddordeb.

RAS 200

RAS200 (RAS200 - Sky & Earth)

Mewn menter unigryw mae'r Gymdeithas Seryddol Frenhinol (Royal Astronomical Society, RAS) wedi sefydlu ymgyrch i gyflwyno Seryddiaeth a Geoffiseg i gynulleidfaoedd sydd yn arferol y tu allan i'r dal-gylch gwyddonol. Mae RAS200 Awyr a Daear yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dau gan mlwyddiant y Gymdeithas Seryddol yn 2020, gyda'r RAS wedi clustnodi miliwn o bunnoedd ar gyfer cyfres o brosiectau.  Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach.

RAS200 yng Nghymru  (RAS200 – Seryddiaeth a Geoffiseg)

Sylfaenwyd y prosiect yma ar gydweithio rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd, gwyddonwyr ag arbenigedd mewn Seryddiaeth a Geoffiseg ac arbenigwyr ar gyfathrebu gwyddoniaeth.

Mae'n brosiect yn cwmpasu sawl sefydliad.  Yn ganolog i'r prosiect mae'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, University of Bristol, University College London (Mullard Space Science Laboratory), Ysgol Glan Clwyd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chwmni Telesgop.  Nod y prosiect yw cyflwyno'r gwyddoniaeth i'r gymdeithas ehangach drwy weithgareddau yn y celfyddydau.  Mae'n ymestyn o geomorffoleg ar arwyneb y Ddaear, drwy ein atmosffer trydanol a maes magnetig y Ddaear, i'r gofod rhyng-blanedol, at yr Haul, planedau, comedau a thu hwnt at y sêr a'r galaethau.