Gwyddonwyr Aber yn dilyn oriau olaf Cassini

13 September 2017

Cassini: The space craft will end its twenty year mission to Saturn on Friday 15 September – Image courtesy of NASA/JPL-Caltech

Mae gwyddonwyr y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn hynt y llong ofod Cassini wrth iddi nesáu at ddiwedd ei thaith ugain mlynedd i'r blaned Sadwrn.

Mae'r Athro Manuel Grande o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn gyd-ymchwilydd ar dri offeryn gwyddonol ar fwrdd y llong ofod sydd ar fin plymio i atmosffer Sadwrn ddydd Gwener 15 Medi 2017.

Lansiwyd Cassini a Huygens, rhan o gynllun yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, o Cape Canaveral ym mis Hydref 1987, ac fe gymerodd hi saith mlynedd iddynt gyrraedd Sadwrn.

Glaniodd Huygens yn llwyddiannus ar Titan, un o leuadau Sadwrn, yn 2005.

Mae Cassini yn arddel enw’r seryddwr Eidalaidd-Ffrengig Giovanni Domenico Cassini, a ddarganfyddodd y cylchoedd o amgylch Sadwrn, ac un o amcanion y daith yw dadansoddi strwythur tri dimensiwn ac ymddygiad dynamig y cylchoedd.

Ym mis Ebrill 2017, cychwynnodd Cassini ar ei 22 cylchdaith olaf o amgylch Sadwrn, â phob un yn cymryd tua chwe diwrnod a hanner i'w chwblhau.

Tra’n teithio ar gyflymdra rhwng 75,000 a 78,000 o filltiroedd yr awr, mae'r archwilydd wedi bod yn hedfan trwy ranbarth o system Sadwrn na chafodd ei harchwilio hyd yma, mewn ymgais i ddysgu am ddirgelion màs cylchoedd Sadwrn a mesur hyd y dydd ar y blaned.

Mae’r Athro Manuel Grande, Pennaeth Ffiseg Systemau Solar ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn rhan o daith Cassini o’r cyfnod cynnar.

Cyfrannodd at adeiladu Sbectromedr Plasma Cassini, a elwir yn CAPS, a'r Dadansoddwr Llwch Cosmig - CDA.

Esboniodd yr Athro Grande: "Mae CAPS yn mesur nodweddion y gofod o amgylch Sadwrn ac o gwmpas lleuadau Sadwrn - y gronynnau wedi'u gwefru, yr electronau, yr ïonau ac i ryw raddau'r atomau niwtral hefyd. Mae hyn yn dweud wrthym am ddeinameg y gronynnau sy'n mynd i mewn i'r aurora ar Sadwrn - ffenomen debyg i oleuadau’r gogledd a welir ger y pegynau ar y ddaear.

"Mae gan Sadwrn faes magnetig mawr, sy'n debyg i'r ddaear; mae ganddi gylchoedd a lleuadau sy'n creu amgylchedd aruthrol gymhleth. Mae’r ffiseg yr un drwy’r amser, ond mae’r canlyniad yn gallu bod yn wahanol iawn, ychydig fel pobi cacen. Mae CAPS yn gasgliad o offerynnau gwyddonol sydd wedi'u cynllunio i ddadansoddi’r ymddygiad cymhleth hwnnw yn y gofod o gwmpas y blaned."

Wrth siarad am y Dadansoddwr Llwch Cosmig, dywedodd yr Athro Grande: "Gan fod gennych gylchoedd, mae gennych lwch sy'n rhyngweithio â'r plasma. Cyn y lansiad, roedd gen i fwy o ddiddordeb yn y glaniwr ei hun a'r dadansoddwr plasma, ond wrth edrych yn ôl, rwy'n credu bod y dadansoddwr llwch cosmig wedi bod yn un o sêr taith Cassini oherwydd ei fod wedi gallu hedfan drwy lwch Enceladus, y chweched fwyaf o leuadau Sadwrn, a dweud wrthym beth yw ei gyfansoddiad.

“Un o ddarganfyddiadau mwyaf rhyfeddol Cassini yw bod môr o ddŵr hylifol o dan wyneb yr iâ ar y blaned, a bod hwn yn cynnwys halwynau a moleciwlau organig.

"Felly, rydym yn gwybod llawer iawn am yr hyn y mae Enceladus wedi ei wneud ohono oherwydd ein bod yn gallu dadansoddi’r mesurydd llwch. Mae'n offeryn sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd, o ystyried hyd y daith, yn rhyfeddol."

Ychwanegodd yr Athro Grande: "Mae'r data a gasglwyd yn ystod taith Cassini wedi newid ein dealltwriaeth o'r bydysawd. Offeryn pwysig arall ar y glaniwr oedd y camera ar Huygens wrth iddi ddisgyn tuag at yr wyneb a gyfunwyd gyda radar ar Cassini. Rhoddodd hwn i ni lun o wyneb Titan, ac mae’r hyn a welsom wedi ein synnu’n fawr."

"Fel mae’n digwydd, mae llynnoedd mawr ar Titan, a thwyni tywod ac afonydd sy'n edrych yn eithaf tebyg i afonydd ar y ddaear. Ceir tymhorau yno hefyd. Mewn llawer ffordd dyma'r lle yn y system solar, os ydych chi'n edrych arno, sydd yn edrych debycaf i’r ddaear. Y gwahaniaeth mawr yw ei bod lawer iawn yn oerach, a methan hylifol tebyg i’r hyn sydd mewn silindrau nwy campio yw’r hylif, ac mae’r creigiau wedi eu gwneud o iâ. Mae hyn wedi bod yn syndod mawr, gan nad oeddem wedi gweld islaw’r atmosffer cyn hyn. Felly mae'n dweud wrthym fod dadl wych dros fynd i leoedd newydd, a phan fyddwn ni'n gwneud hynny, rydym yn darganfod pethau newydd ac annisgwyl."

Prif ddiddordebau ymchwil yr Athro Grande yw astudio arwynebau’r planedau a'r modd y maent yn rhyngweithio â'u hamgylchedd plasma, yn bennaf gan ddefnyddio data o deithiau Chandrayaan-1 Sefydliad Ymchwil y Gofod India, Venus Express yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a thaith Cassini.

Un nodwedd o gyfraniad Aberystwyth i brosiect Cassini yw bod data wedi bod ar gael i fyfyrwyr israddedig ei defnyddio.

I gael gwybod mwy am astudio gradd BSc (tair blynedd) a MSc (pedair blynedd) mewn Ffiseg a Ffiseg y Planedau ym Mhrifysgol Aberystwyth a llawer mwy, cliciwch yma.



Nôl i'r brig