Astudio yn yr Arctig

Svalbard: Gwlad yr Eirth Gwynion a’r Awrorâu

Svalbard yw un o’r lleoliadau mwyaf egsotig yn y byd. Mae’n ynysfor o ynysoedd sy’n rhychwantu lledredau o oddeutu 74N i 81N, yn ddwfn y tu mewn i’r Cylch Arctig. Mae’n un o’r ardaloedd anial prin sydd heb ei difetha – mae llawer o’r ynysoedd wedi’u gorchuddio gan rewlifoedd ac mae’n gartref i fywyd gwyllt megis eirth gwynion, ceirw Llychlyn, morfeirch, morloi a llwynogod Arctig.

Svalbard yw’r lle delfrydol i astudio ffiseg atmosfferig, ïonosfferig a ffiseg y gofod oherwydd ar ledredau uchel mae ffenomenau dramatig yn digwydd sy’n anghyraeddadwy mewn mannau eraill, megis y fortecs pegynol stratosfferig, teneuo’r ôson, a chysylltiad maes magnetig y blaned â’r gofod rhyngblanedol drwy’r llinellau maes agored a geir ar ledredau pegynol.

Caiff myfyrwyr sy’n astudio MPhys Ffiseg gyda Ffiseg y Planedau a’r Gofod gyfle digyffelyb i dreulio ail semester eu blwyddyn olaf (Ionawr – Mai) yn astudio yn UNIS (Canolfan Brifysgol ar Svalbard) prifysgol ryngwladol yn nhref Longyearbyen ar Svalbard. Mae myfyrwyr ledled Ewrop yn cwrdd i astudio cyrsiau uwch ym maes gwyddor begynol (bydd yr holl ddysgu yn cael ei wneud yn Saesneg ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol). Mae Longyearbyen yn dref fywiog gyda bwytai, oriel gelf ac amgueddfa, neuadd chwaraeon a phwll nofio, tafarndai a sinema.

 Mae’r myfyrwyr yn byw mewn llety modern pwrpasol ac yn cael eu dysgu gan staff Prifysgol o Norwy sydd â bri rhyngwladol . Dyma’r pynciau a astudir:

I ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau ymchwil EISCAT yn Svalbard ewch at eu gwefan yma neu yma.