Astudiaethau Uwchraddedig
Mae Astudiaethau Uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn unigryw. Mae’r myfyrwyr yn elwa llawer, yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae gennym gyfleusterau Uwchraddedig modern ac adnoddau dysgu rhagorol, gan gynnwys llyfrgell fwyaf Cymru a chanddi dros 6 miliwn o destunau a’r adnoddau electronig diweddaraf oll. Rydym wedi ein lleoli ar gampws ac mae’r dref gyfan wedi datblygu dros ganrif a mwy er mwyn bodloni’ch anghenion a mwy. I ddarganfod sut beth fyddai bod yn fyfyriwr uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac er mwyn eich helpu chi i ddeall pam ein bod ni ymhlith y “Deg o Brifysgolion gorau yn y Wlad o ran Bodlonrwydd Myfyrwyr ", darllenwch ragor.
I gael rhagor o wybodaeth am Astudiaethau Uwchraddedig, boed hynny’n wybodaeth am Gyrsiau Uwchraddedig, Llety i Fyfyrwyr Uwchraddedig neu Gyllid i Fyfyrwyr Uwchraddedig, dilynwch y dolenni isod:
Rydym am i chi ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch er mwyn gwneud y dewis gorau o ran eich Astudiaethau Uwchraddedig chi. Fodd bynnag, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau nad yw’r tudalennau hyn yn eu hateb, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni.
Cyrsiau Uwchraddedig
Cyllid i Fyfyrwyr Uwchraddedig
Diwrnod Agored Rhithwir