Cyrraedd Aberystwyth

Ar ôl i chi dderbyn ein cynnig am le yn y Brifysgol, mae'n amser paratoi. Byddwch eisoes wedi cael gwybod pryd y bydd yn rhaid i chi gyrraedd Aberystwyth, ac rydym yn argymell eich bod yn dechrau gwneud trefniadau mewn da bryd cyn cyrraedd. Dyma rai o'r pethau yr hoffech eu hystyried efallai:

  • trefnu llety
  • sut mae teithio i Aberystwyth
  • dod o hyd i waith rhan-amser
  • os ydych yn dod â'ch teulu gyda chi, bydd gennych y dasg ychwanegol o ddod o hyd i ofal plant ac ysgolion

Llety

Efallai yr hoffai myfyrwyr uwchraddedig ddewis llety yn neuaddau'r Brifysgol, neu gallwch astudio mewn llety yn y sector preifat. Gwarentir llety yn neuaddau'r Brifysgol i fyfyrwyr uwchraddedig tramor amser-llawn trwy gydol cyfnod eu hastudiaethau.

Pan fo'n bosibl, mae uwchraddedigion yn cael llety gyda'i gilydd yn neuaddau'r Brifysgol. Ond noder nad yw'r Swyddfa Llety yn gallu prosesu ceisiadau nes bod eich cais wedi'i gwblhau'n llawn.

Ceir rhagor o wybodaeth am bob un o neuaddau'r Brifysgol ar wefan y Swddfa Llety.

Llety i deuluoedd

Mae'r Brifysgol yn berchen ar nifer o fflatiau i fyfyrwyr sydd â theuluoedd; fel rheol mae rhestr aros ar gyfer llety o'r fath. Mae'n hanfodol eich bod yn ysgrifennu at y Swyddfa Llety cyn gynted â phosibl gan nodi pa fath o lety yr hoffech. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe baech yn nodi'r dyddiad yr ydych yn bwriadu cyrraedd a llenwi'r ffurflen gais berthnasol.

Mae'r Swyddfa Llety yn cynnal rhestr sy'n cael ei diweddaru'n gyson o lety addas yn y sector preifat i fyfyrwyr. Mae llety i deuluoedd yn aml yn rhatach yn y pentrefi o amgylch Aberystwyth ond efallai y bydd llety o'r fath ar gael o fis Medi i fis Mehefin yn unig oherwydd bod misoedd yr haf yn aml yn cael eu neilltuo i ymwelwyr, ac mae hyn yn golygu bod angen symud yn ystod pob gwyliau haf.

Mae gan y Brifysgol feithrinfa sydd wedi'i lleoli mewn dros chwarter erw o erddi cwbl amgaeedig gyda lle chwarae mawr a diogel. Mae lleoedd amser-llawn a rhan-amser ar gael i blant rhwng 6 wythnos a 5 mlwydd oed. Mae gan Aberystwyth ddwy feithrinfa arall hefyd a cheir manylion am y meithrinfeydd hyn a rhestr o'r ysgolion lleol trwy wneud cais.

Ceir rhagor o wybodaeth am lety ar wefan Swddfa Llety'r Brifysgol.

Teithio i Aberystwyth

Mae Aberystwyth wedi'i lleoli ar arfordir gorllewinol Cymru, ond mae'n cynnig dewisiadau cyfleus o ran teithio. Gall myfyrwyr sy'n hedfan o dramor fod yn sicr fod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i'w galluogi i deithio am bris rhesymol o'r rhan fwyaf o brif feysydd awyr y DUi Aberystwyth.

Mae gwasanaeth trên rheolaidd o orsaf Euston Llundain, ac mae'r daith yn cymryd tua 5 awr. Mae'r prif wasanaethau inter-city yn cynnig cysylltiadau i Aberystwyth o Birmingham. Mae gwasanaeth bws a thacsi rheolaidd ar gael o'r orsaf i'r ddau gampws. Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau trên ar-lein.

Gall myfyrwyr sy'n cyrraedd meysydd awyr Llundain, Heathrow, Gatwick, Caerdydd, Birmingham a Manceinion deithio i Aberystwyth ar fws neu drên. Ceir rhagor o wybodaeth am amseroedd teithio ar-lein.

Mae siwrneiau inter-city ar fws yn terfynu yn yr orsaf drenau. Mae gwasanaeth bws lleol ar gael i'r ddau gampws - edrychwch am y Waun Circular.

Mae gorsaf dacsi fawr wrth ymyl yr orsaf drenau.

Gwaith

Mae Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd y Brifysgol yn cynnal cynllun Cyswllt Swyddi, a allai eich helpu i gysylltu â chyflogwyr sy'n cynnig y math o waith yr ydych yn chwilio amdano.

Mae Cyswllt Swyddi yn chwilio am gyflogwyr sydd â swyddi gwag addas i fyfyrwyr a graddedigion, ac maent yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i'r ymgeiswyr sy'n cofrestru â ni. Nid asiantaeth recriwtio ydyw, eich cyfrifoldeb chi fydd cysylltu â'r cyflogwr a dechrau'r broses gwneud cais am y swydd.

Mae Cyswllt Swyddi yn hysbysebu swyddi rhan-amser yn ystod y tymor, gwaith yn ystod y gwyliau, lleoliadau gwaith dros dro, profiad gwaith a lleoliadau gwaith i raddedigion. Mae'r rhan fwyaf o'r swyddi â chyflogwyr lleol, ond mae ganddynt hefyd wybodaeth am swyddi ledled Prydain a thramor. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cyswllt Swyddi.

Dyddiau'r Tymhorau

Mae pob blwyddyn academaidd wedi'i rhannu yn dri thymor. Mae dyddiadau'r tymor yn amrywio yn ôl y flwyddyn academaidd. Noder y bydd myfyrwyr graddau Meistr trwy gwrs amser-llawn hefyd yn gweithio ar eu traethodau ymchwil rhwng mis Mehefin a mis Medi. Mae myfyrwyr ymchwil (PhD a MPhil) yn gweithio ar eu prosiectau ymchwil o leiaf 44 wythnos y flwyddyn.

 Sesiwn 2010/2011  Sesiwn 2011/2012
 

Tymor yr Hydref (1)

Dydd Llun 27 Medi 2010 - Dydd Sadwrn 18 Rhagfyr 2010

Tymor y Gwanwyn (2)

Dydd Llun 10 Ionawr 2011 - Dydd Sadwrn 09 Ebrill 2011

Wythnos Adolygu

Dydd Llun 10 Ionawr 2011 - Dydd Sul 16 Ionawr 2011

Arholiadau Semester 1

Dydd Llun 17 Ionawr 2011 - Dydd Sadwrn 29 Ionawr 2011
(Mae dysgu yn cychwyn ar Dydd Llun 31 Ionawr 2011)

Tymor yr Haf (3)

Dydd Llun 2 Mai 2011 - Dydd Sadwrn 4 Mehefin 2011

Wythnos Adolygu

Dydd Llun 9 Mai 2011 - Dydd Sul 15 Mai 2011

Arholiadau Semester 2

Dydd Llun 16 Mai 2011- Dydd Sadwrn 4 Mehefin 2011

Graddio

Dydd Mawrth 12.07.11 - Dydd Gwener 15.07.11


 

Tymor yr Hydref (1)

Dydd Llun 26 Medi 2011 - Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr 2011

Tymor y Gwanwyn (2)

Dydd Llun 9 Ionawr 2012 - Dydd Sadwrn 31 Mawrth 2012

Wythnos Adolygu

Dydd Llun 9 Ionawr 2012 - Dydd Sul 15 Ionawr 2012

Arholiadau Semester 1

Dydd Llun 16 Ionawr 2012 - Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2012
(Mae dysgu yn cychwyn ar Dydd Llun 30 Ionawr 2012)

Tymor yr Haf (3)

Dydd Llun 23 Ebrill 2012 - Dydd Sadwrn 2 Mehefin 2012

Wythnos Adolygu

Dydd Llun 7 Mai 2012 - Dydd Sul 13 Mai 2012

Arholiadau Semester 2

Dydd Llun 14 Mai 2012- Dydd Sadwrn 2 Mehefin 2012

Graddio

Dydd Mawrth 10.07.12 - Dydd Gwener 13.07.12