Cofrestru
Cyn y gellir eich adnabod fel myfyriwr llawn amser neu ran amser yn y Brifysgol mae angen i chi gwblhau’r broses cofrestru ar ddechrau’r sesiwn academaidd. Dim ond yn Aberystwyth y gellir gwneud hyn a dylid ei wneud yn ystod yr Wythnos Groeso. Bydd rhaid i chi gyfarfod â staff yn eich adran academaidd eich hun ac â staff mewn unrhyw adran sy’n gyfrifol am fodiwlau yr ydych yn dymuno cofrestru arnynt. Ar gyfer myfyrwyr ymchwil, mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gyfarfod â staff yn Ysgol y Graddedigion os oes rhaid i chi ymgymryd â modiwlau hyfforddiant ymchwil, neu os dymunwch wneud hynny.
Bydd staff yn eich adran(nau) academaidd yn eich helpu chi i ddewis eich modiwlau. Unwaith y bydd gennych yr holl fodiwlau a’r gymeradwyaeth adrannol angenrheidiol, bydd gofyn i chi gwblhau eich cofrestru arlein. Er mwyn cofrestru, rhaid eich bod wedi cwblhau’r broses derbyn a rhoi eich cyfrif ebost Prifysgol Aberystwyth ar waith.
Gellir cofrestru drwy’r ‘Cofnod Myfyriwr’ dan ‘Eich Safleoedd’ ar y we yn www.aber.ac.uk/cy/student. Gallwch gofrestru o unrhyw Ystafell Gyfrifiadura yn y Brifysgol neu ddefnyddio eich cyfrifiadur eich hun wedi’i gysylltu â rhwydwaith y Brifysgol. Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i’ch cofnod dylech glicio ar y botwm ‘Cofrestru’ dan ‘Tasgau’. Yna cewch eich arwain drwy’r broses a fydd yn gofyn i chi gadarnhau eich Manylion Personol, Cyfeiriadau, Cynllun Astudio a Modiwlau. Ar ôl i chi gwblhau eich proses gofrestru, byddwch yn derbyn ebost yn cadarnhau. Bydd gwybodaeth bellach ynglŷn â chyfarfod â’ch adran academaidd yn cael ei hanfon atoch chi a bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan ar wefan y Swyddfa Academaidd www.aber.ac.uk/academicoffice/postgraduate/index.shtml
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â Chofrestru Uwchraddedig, cysylltwch â’r Swyddfa Academaidd drwy ebost pgsstaff@aber.ac.uk. Mae’n bwysig hysbysu eich adran academaidd a’r Swyddfa Academaidd os nad ydych chi’n gallu cofrestru yn ystod yr Wythnos Groeso. Nodwch os nad ydych chi’n cwblhau’r broses gofrestru byddwch yn cael eich atal rhag defnyddio cyfleusterau'r Brifysgol.
Mae eich astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth yn dechrau gyda Chofrestru a rhaid i bob myfyriwr llawn amser newydd fod yn bresennol. Y Swyddfa Academaidd sy’n goruchwylio Cofrestru a cheir dyddiadau ac amseroedd penodol i bob Adran. Ceir rhagor o fanylion ar y Dudalen Cofrestru Uwchraddedigion. Nodwch fod rhaid i chi gwblhau’r broses dderbyn cyn Cofrestru. Os nad ydych chi wedi derbyn cadarnhad eich bod yn barod i gofrestru, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn Graddedigion.