Ymsefydlu

Pan oeddech chi’n fyfyriwr israddedig efallai i chi alw hyn yn Wythnos y Glas neu Ymgyfarwyddo. Mae gan fyfyrwyr uwchraddedig hefyd wythnos ar ddechrau’r Semester ar gyfer Cofrestru a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio i’ch cyflwyno chi i’r Brifysgol, eich Adran a thref Aberystwyth. Mae amserlen y digwyddiadau yn dechrau ddydd Llun 24 Medi 2012 ac mae i’w gweld ar y dudalen Rhaglenni Ymsefydlu Graddedigion.

Llun 24 Medi: 2yh - 5yp Ymsefydlu Gorfodol i Uwchraddedigion Ymchwil
Mawrth 25 Medi: 9.30yb - 1yp Ymsefydlu Gorfodol i Uwchraddedigion Trwy Gwrs 
Iau 27 a Gwener 28 Medi: 9yb - 5yp  Gweithdai Uwchraddedigion: Gweithdy deuddydd gorfodol i fyfyrwyr PhD blwyddyn gyntaf