Wythnos Groeso i Uwchraddedigion
I’r rheini yn eich plith sy’n newydd i Aberystwyth, bob blwyddyn ar ddechrau’r tymor rydym ni’n cynnal Wythnos Groeso i fyfyrwyr newydd. Yn ogystal â chwblhau Cofrestru ac Ymsefydlu, mae’r Wythnos Groeso yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd, cwrdd â chydweithwyr newydd a chlywed pa gymorth cymdeithasol, chwaraeon ac academaidd sydd ar gael i chi. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Aberystwyth gan obeithio y byddwch chi’n mwynhau eich cyfnod gyda ni. Gallwch lawrlwytho Lyfryn yr Wythnos Groeso y llynedd a bydd llyfryn 2012 ar gael ym mis Awst.