Myfyrwyr Rhyngwladol
Cynhelir Croeso i Fyfyrwyr Rhyngwladol 2012 Dydd Sul 23 Medi am 11am gyda chyflwyniadau’n dechrau am 11.30. Gweinir cinio yn dilyn y cyflwyniadau na ddylai fod yn hirach nag awr.
Gwirio dogfennau:
Dydd Llun 24 Medi hyd at Ddydd Gwener 28 Medi
Dewch â’ch dogfennau i’r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr ar gampws Penglais yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Mae ein staff yma i’ch cynorthwyo ag unrhyw ymholiadau. Rydym ni’n gweithredu cynllun cywiro fisas ac yn cynnig cymorth parhaus drwy gydol cyfnod eich astudiaethau.
Yn ôl Rheoliadau Mewnfudo, rhaid i rai myfyrwyr rhyngwladol gofrestru â’r orsaf heddlu leol. Rydym ni wedi trefnu i'r Heddlu fod ar y campws i wneud hyn mor hwylus â phosibl. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhoi i chi yn ystod y Seremoni Croeso Ryngwladol ddydd Sul.
Rhaglen Gymdeithasol y Myfyrwyr Rhyngwladol
Teithiau bws, teithiau cerdded, digwyddiadau hunan-arweiniad drwy gydol yr wythnos gyntaf. O gestyll i reilffyrdd stêm, bydd cyfle i chi gael blas o’r hyn sydd gan Aberystwyth a Chymru i’w gynnig, a chyfarfod a myfyrwyr newydd eraill. Cadwch olwg ar www.aberguild.co.uk am restr lawn o’r teithiau sydd ar gael yn ystod yr Wythnos Groeso.