Cerdyn Aber ac Ebost
Er mwyn defnyddio’r gwasanaethau llyfrgell, cyfrifiadura a chyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae angen i chi gael cyfrif ebost a Cherdyn Aber. Byddwch yn gallu rhoi eich cyfrif ebost ar waith ac ymgeisio am eich cerdyn cyn cyrraedd y Brifysgol. Os ydych chi wedi cwblhau’r broses ymgeisio byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau drwy ebost ar gyfer gwneud hynny gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Am ragor o fanylion ewch i dudalen Cerdyn Aber ac Ebost.