Llety
Pryd ddylwn i gyrraedd?
Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau croesawu ac ymsefydlu yn dechrau ddydd Sadwrn 21 Medi. I’r sawl y mae’n fwy cyfleus iddyn nhw deithio ar y dydd Gwener, bydd rhai gweithgareddau croeso ar raddfa fach hefyd ar gael. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau yn Undeb y Myfyrwyr ac mewn neuaddau preswyl. Gweler y wefan i gael rhagor o wybodaeth.
Casglu Allweddi: i fyfyrwyr sydd wedi sicrhau lle mewn eiddo a reolir gan y Brifysgol
I gasglu allwedd eich ystafell ewch i dderbynfa’r neuadd briodol fel y rhestrir isod ar y dyddiadau a’r amserau canlynol:
Gwener 21 Medi o 10am – 6pm
Neuaddau glan môr: Derbynfa Pumlumon
Brynderw: Brynderw
Neuadd Alexandra: Neuadd Alexandra
Pantycelyn: Derbynfa Pantycelyn
Penbryn: Derbynfa Penbryn
Cwrt Mawr, Rosser a Trefloyne: Lolfa Rosser
Pentre Jane Morgan: Bloc Cyfleusterau Pentre Jane Morgan
O 6pm Gwener 21 Medi i 8am Sadwrn 22 Medi
Neuaddau glan môr, Brynderw, Neuadd Alexandra: Derbynfa Pumlumon
Pantycelyn: Derbynfa Pantycelyn
Penbryn: Derbynfa Penbryn
Cwrt Mawr, Rosser a Trefloyne: Lolfa Rosser bloc D
Pentre Jane Morgan: Bloc Cyfleusterau Pentre Jane Morgan
O 9am-6pm Sadwrn 22 Medi
Neuaddau glan môr: Derbynfa Pumlumon
Brynderw: Brynderw
Neuadd Alexandra: Neuadd Alexandra
Pantycelyn: Derbynfa Pantycelyn
Penbryn: Derbynfa Penbryn
Cwrt Mawr, Rosser a Trefloyne: Lolfa Rosser bloc D
Pentre Jane Morgan: Bloc Cyfleusterau Pentre Jane Morgan
O 6pm Sadwrn 22 Medi ymlaen
Neuaddau glan môr: Derbynfa Pumlumon
Brynderw: Derbynfa Pumlumon
Neuadd Alexandra: Derbynfa Pumlumon
Pantycelyn: Derbynfa Preswylfa Bloc Cymunedol Cwrt Mawr
Penbryn: Derbynfa Preswylfa Bloc Cymunedol Cwrt Mawr
Cwrt Mawr, Rosser a Trefloyne: Derbynfa Preswylfa Bloc Cymunedol Cwrt Mawr
Pentre Jane Morgan: Derbynfa Preswylfa Bloc Cymunedol Cwrt Mawr
Bydd staff ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad yn y preswylfeydd. Bydd digwyddiadau croeso arbennig hefyd yn cael eu trefnu yn y preswylfeydd.
Swyddfa Llety
Dros y Penwythnos Croesawu bydd y Swyddfa Llety ar agor o 10am tan 10pm ddydd Gwener 21 Medi a dydd Sadwrn 22 Medi a 10am – 6pm ddydd Sul 23 Medi.
Ar ôl 8am dydd Llun 24 Medi, rhaid casglu pob allwedd preswylfa o, a’i dychwelyd i
Y Swyddfa Llety yn ystod oriau swyddfa arferol (9am - 5.30pm).
Yn ystod y tymor mae’r Swyddfa Llety ar agor yn ystod oriau swyddfa ac mae i’w chanfod yn Nerbynfa Penbryn. Mae’r Swyddfa hon yn rhoi cymorth a chyngor i chi ar bopeth sy’n ymwneud â llety myfyrwyr. Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud cais am lety neu wedi trefnu lle i fyw, yna dylech wneud hynny cyn gynted ag y bo modd drwy gysylltu â’r Swyddfa Llety. I gael rhagor o wybodaeth fanwl am ein gwasanaethau, ewch i www.aber.ac.uk/residential/cy/accommodation (gweler y Rhestr Cysylltiadau ).
Parcio a Dadlwytho
Yn ystod y penwythnos symud i mewn cewch barcio ar y campws, heb drwydded, ar gyfer dadlwytho. I’r rheini ohonoch sy’n teithio i Gampws Penglais, bydd aelodau o staff ar y safle i’ch helpu i barcio. Cadwch olwg am y cyfarwyddiadau manwl a anfonir atoch o’r Swyddfa Llety ddechrau mis Medi i sicrhau fod eich taith yma mor hwylus ag y bo modd.