Darpariaeth Sgiliau Uwchraddedig

Trwy astudio gradd uwch byddwch yn datblygu eich sgiliau craidd ymhellach. Ym Mhrifysgol Aberystwyth bydd astudio gradd uwch hefyd yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau trosglwyddadwy, sgiliau sy'n hanfodol wrth adeiladu gyrfa lwyddiannus ym myd gwaith. Mae pa sgiliau bynnag y byddwch yn dewis eu datblygu yn amodol ar eich anghenion a'ch diddordebau. Trwy astudio ar gyfer gradd uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch gyfle i ddatblygu unrhyw rai o'r canlynol ymhellach:

  • Technegau a Sgiliau Rheoli Prosiect – dysgu sut mae cwblhau prosiectau o fewn y gyllideb, y terfyn amser a'r targedau ansawdd angenrheidiol
  • Rheoli Amser – adnabod a rheoli tasgau pwysig a brys a chreu fframwaith effeithiol i gyflwyno o fewn amserlenni tynn
  • Rheoli Pwysau a Straen – darganfod beth sy'n achosi straen, penderfynu sut y gall straen effeithio arnoch yn eich bywyd personol a phroffesiynol, a dysgu sut mae ymdrin yn effeithiol â digwyddiadau a phethau sy'n achosi straen
  • Effeithiolrwydd Personol – penderfynu sut ydych chi'n gweithio orau a chreu ffordd o gydbwyso cyfleoedd gwaith/bywyd
  • Sgiliau Cyflwyno a Chyfathrebu – darganfod ffyrdd o gyfathrebu eich gwybodaeth a'ch syniadau yn effeithiol trwy nifer o ddulliau gweledol a llafar
  • Technegau rhwydweithio – ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau a darganfod sut mae defnyddio eich rhwydwaith i ehangu eich datblygiad proffesiynol
  • Tactegau Gyrfaol – ymchwilio i'r hyn sy'n rhaid i chi ei wneud, a phryd sy'n rhaid i chi ei wneud, i gael effaith gadarnhaol ar eich datblygiad gyrfaol
  • Datblygu Sgiliau Proffesiynol – dadorchuddio'r sgiliau allweddol y bydd eu hangen arnoch i ddatblygu ac i ragori'n bersonol a phroffesiynol. Darganfod sut y gall deallusrwydd emosiynol, empathi a sgiliau allweddol eraill sicrhau eich llwyddiant proffesiynol.