Cymryd eich Gyrfa o Ddifrif
Mae Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn rhoi'r offer, y technegau a'r cymorth i chi i sicrhau eich bod yn cyflawni eich amcanion, ac yn datblygu'n bersonol gyda chyfleoedd datblygu a drefnir. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn gweithio'n agos â'r holl adrannau sy'n cynnig graddau uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ddarparu sesiynau datblygu gyrfaoedd penodol yn ogystal â chyfrannu at gydrannau sgiliau modiwlau unigol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu'r sgiliau allweddol a throsglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Rydym hefyd yn cydnabod efallai nad oes gennych syniad clir o'r yrfa yr hoffech ei datblygu a byddwn yn darparu ymgynghorydd gyrfaoedd i chi i sicrhau bod eich dewisiadau yn cael eu gwerthuso'n gywir. I atgyfnerthu'r cymorth personol hwn gyda rhaglen gref o weithgareddau dros y flwyddyn academaidd, defnyddir profion dawn (seicometrig) y mae llawer o gyflogwyr yn eu defnyddio yn eu proses recriwtio.
Byddwch yn cael mynediad at lyfrgell gyrfaoedd sydd â stoc eang, a chewch hyd i gyfarwyddyd ar gyfrifiaduron sydd â gwybodaeth gynhwysfawr am dros 400 o alwedigaethau i raddedigion. Bydd yr holl bethau hyn yn eich galluogi i ddeall eich sgiliau craidd a'u haddasu i ofynion gyrfaoedd penodol sydd o ddiddordeb i chi.
Gallwn hyd yn oed eich cynorthwyo i ddod o hyd i waith rhan-amser, a sesiynau “blas ar waith” i sicrhau eich bod yn datblygu'r sgiliau ymarferol i ategu'r sgiliau pwnc-benodol. Gan ddefnyddio naill ai'r staff gyrfaoedd neu ein hadnoddau ar-lein, gellir dod o hyd i gyfleoedd wedi'u targedu a chaiff y rhain eu he-bostio atoch i'w hystyried. Mae cymorth ar gael hefyd i ddod o hyd i leoliadau gwaith a ‘sesiynau blasu’ gyda BBaCh yng Nghymru sy'n cael eu hysbysebu trwy 'Cyfleoedd i Raddedigion Cymru'.
Manteisiwch i'r eithaf ar eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth a gadewch i'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd eich helpu i ffurfio strategaeth chwilio am swydd a fydd yn gwneud y defnydd gorau o'ch sgiliau academaidd a throsglwyddadwy, eich diddordebau a'ch cymhellion.