Cyllid a Ffioedd Uwchraddedig
Diben y tudalennau hyn yw rhoi syniad i chi o gost y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, a gwybodaeth am unrhyw ffynonellau cyllid a allai fod ar gael i chi. Noder fod y cyllid sydd ar gael i chi yn amodol ar eich categori preswyl a'r math o gwrs yr ydych yn dewis ei astudio. Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd am gyllid sydd ar gael i chi.
Ysgoloriaethau Graddedigion Aberystwyth
Mae’r ysgoloriaeth hon ar gael i raddedigion Aberystwyth (o wledydd Prydain, yr Undeb Ewropeaidd, ac yn fyfyrwyr Rhyngwladol) sy’n cofrestru am raglenni Meistr a Dysgir drwy Gwrs, MPhil ac LLM drwy Ymchwil yn 2013.
Rhaglenni a ddysgir trwy gwrs
MA MSc, MScEcon, LLM, MBA, MRes, TAR
Bydd y rhaglenni hyn yn cael eu seilio'n bennaf ar gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, ysgolion astudio. Bydd traean o'r credydau ar gyfer gradd meistr a ddysgir trwy gwrs yn cael eu dyfarnu am gwblhau traethawd estynedig Meistr yn llwyddiannus.
Rhaglenni Ymchwil
PhD, MPhil ac LLM trwy Ymchwil
Mae'r rhaglenni hyn yn seiliedig yn llwyr neu'n bennaf ar ymchwil annibynnol gan y myfyriwr o dan gyfarwyddyd o leiaf un goruchwyliwr. Bydd casgliadau'r ymchwil yn cael eu cyflwyno fel traethawd ymchwil. Caiff astudiaethau doethurol eu cefnogi yn y flwyddyn gyntaf gan Raglen Hyfforddiant Ymchwil y Brifysgol.