Costau Byw

Rydym yn amcangyfrif y bydd ar y myfyrwyr angen y cyfansymiau canlynol ar gyfer pob deuddeng mis o astudio i dalu am lety, cynhaliaeth a gwariant personol. Seilir y ffigyrrau isod ar arolwg o'n myfyrwyr yn ngwanwyn 2010 gyda cynnydd ychwanegol o 5% ar gyfer chwyddiant.

Gellir rhannu'r costau byw amcangyfrifedig fel hyn: (£)

 Costau byw  Amcangyfrif isaf Amcangyfrif canolig Amcangyfrif uchaf
Llyfrau/ iTunes   £96  £108  £132
 Golchi dillad/ Gofal opthalmig / Gofal deintyddol  £228  £276  £324
 Rhyngrwyd/ Band-eang  £60  £132  £204
 Gwresogi  £144  £228  £312
 Ffôn  £132  £288  £432
 Teithio yn y Deyrnas Unedig  £324  £456  £600
 Dillad / Esgidiau  £132 £384   £636
 Hamdden / Bwyta allan / Cymdeithasu  £456  £624  £780
 Bwyd (ag eithrio bwyta allan ac alcahol)  £972  £1,332  £1,692
 Llety  £3,468  £4,068  £4,584
 CYFANSWM  £6,012  £7,896  £9,696

Sylwer nad yw'r Costau Byw hyn yn cynnwys teithio o'r wlad dramor i Aberystywth.

Noder mai amcangyfrif yw'r uchod o'r costau byw am 12 mis. Canllawiau ydynt gan y bydd rhai myfrywyr yn byw'n rhatach ac eraill yn gwario mwy. Buasai costau byw ar gyfer cyrsiau byrrach (e.e. cwrs 10 mis yn Ymarferiad y Gyfraith (LPC)) wedi eu cyfrifo pro-rata (e.e. £6876 x 10/12 = £5730).

* Bydd angen i'r myfyrwyr hynny o du allan i'r EEA sydd angen visa i astudio yn y Deyrnas Unedig ddangos tystiolaeth i'r UK Border Agency y bod ganndynt ddigon o gyllid ar gyfer eu astudiaethau. Yr isafswm mae'r UKBA ei angen yw £600 y mis (h.y. cyfwerth â £7200 am 12 mis). 

Noder nad yw'r costau uchod ar gyfer myfyrwyr tramor yn cynnwys costau teithio o'u gwlad i Aberystwyth ac yn ôl ac nid oes yna swm i'w gadw wrth gefn.

Gall myfyrwyr sy'n rhannu teledu rannu costau trwydded teledu felly gellir lleihau'r rhan yma o'r costau.

Noder nad yw'r Costau Bywhyn yn cynnwys teithio o'r wlad wreiddiol i Aberystwyth.