Ysgoloriaethau Graddedigion Aberystwyth
Blwyddyn derbyn 2013
Angen cymorth i ariannu’ch cwrs Meistr yn 2013?
Mae’r ysgoloriaeth hon ar gael i raddedigion Aberystwyth (o wledydd Prydain, yr Undeb Ewropeaidd, ac yn fyfyrwyr Rhyngwladol) sy’n cofrestru am raglenni Meistr a Dysgir drwy Gwrs, MPhil ac LLM drwy Ymchwil yn 2013.
I raddedigion a gafodd Anrhydedd dosbarth 2:1 neu 2:2, bydd yr ysgoloriaeth werth 10% o ffioedd y cynllun Meistr arfaethedig.
I raddedigion a gafodd Anrhydedd dosbarth Cyntaf, bydd yr ysgoloriaeth werth 20% o ffioedd y cynllun Meistr arfaethedig.
Nid oes angen gwneud cais am yr Ysgoloriaeth gan y bydd yn cael ei chyfrif yn awtomatig a’i rhoi ar waith pan fyddwch yn talu’ch ffioedd.
Pwy all eu cael?
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth.
- Mae graddedigion Prifysgol Aberystwyth sy’n hanu o wledydd Prydain, gweddill yr Undeb Ewropeaidd ac sydd yn fyfyrwyr Rhyngwladol yn cael gwneud cais.
- Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn eu hariannu eu hunain yn gyfan gwbl. (Sylwer bod ymgeiswyr a ariennir drwy Fenthyciadau Datblygu Gyrfa neu Fenthyciadau Ffederal yr Unol Daleithiau yn cyfrif fel rhai hunan-ariannu).
- Mae’r cyrsiau perthnasol yn cynnwys cyrsiau Meistr a Ddysgir drwy Gwrs, ac MPhil ac LLM drwy Ymchwil.
- Mae’r ysgoloriaethau yn cynnwys pob dull astudio (amser-llawn, rhan-amser a dysgu o bell).
Eithriadau:
- Nid yw myfyrwyr sy’n cael ysgoloriaethau neu fwrsariaethau eraill yn gallu cael yr ysgoloriaethau hyn.
- Nid yw ymgeiswyr sy’n aelodau o staff yn cael yr ysgoloriaethau hyn.
- Nid yw’r cyrsiau Ymarfer y Gyfraith (LPC) na Thystysgrif Addysg i Raddedigion wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn.
Sylwer: mae’r cynllun hwn yn disodli’r Gostyngiad Abergrad ac fe’i hadolygir bob blwyddyn.