Cystadleuaeth Cynllun Ysgoloriaethau Doethurol i Ddatblygu Gyrfa (DCDS)

Mae’r Brifysgol yn cyflwyno cynllun ysgoloriaethau doethuriaethol i ddatblygu gyrfa (DCDS), sy’n cynnig pecyn o ymchwil, hyfforddiant a datblygu gyrfaol i fyfyrwyr PhD (amser llawn). Mae’r ysgoloriaethau hyn wedi’u teilwra i alluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni eu dewis o yrfa gan gynnwys a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu i wella’u sgiliau ymchwil a dysgu yn ogystal â’u sgiliau trosglwyddadwy.

Bydd myfyrwyr ar y cynllun yn gwneud cyfraniad penodol tuag at waith yr Adran a’r Brifysgol fel amod o’r ysgoloriaeth ymchwil. Nid dysgu yw'r unig opsiwn ar gyfer y cyfraniad hwn. Gall cyfraniad datblygu gyrfa hefyd gynnwys ymchwil, golygu, lleoliadau proffesiynol, neu gyfleoedd datblygu personol eraill sydd hefyd o gymorth i’r Adran dan sylw. Cynlluniwyd y rhain i wella profiad myfyrwyr ôl-raddedig a’u gwneud yn fwy cyflogadwy yn y dyfodol, ond nid ydynt yn gofyn am ymrwymiad amser a fydd yn peryglu eu hymchwil.

Cystadleuaetham Ysgoloriaethau DCDS y Brifysgol

Mae'r gystadleuaeth am yr ysgoloriaethau DCDS y Brifysgol bellach ar agor i holl fyfyrwyr cymwysiedig sydd eisiau astudio am radd PhD amser-llawn yn unrhyw un o'r adrannau canlynol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Adrannau sy'n cymryd rhan

Addysg a Dysgu Gydol Oes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff 
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Hanes a Hanes Cymru 
Astudiaethau Gwybodaeth Ieithoedd Ewropeaidd 
Celf Mathemateg a Ffiseg
Cyfrifiadureg Rheolaeth a Busnes
Cymraeg Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Seicoleg
Gwleidyddiaeth Ryngwladol  Y Gyfraith a Throseddeg
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig  

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i chi:

  1. feddu ar, neu ddisgwyl ennill, o leiaf ail ddosbarth uwch gydag anrhydedd yn eich gradd gyntaf
  2. wneud cais a chael cynnig lle i astudio ar gyfer gradd ddoethuriaeth yn Aberystwyth
  3. (myfyrwyr rhyngwladol yn unig) feddu ar sgôr IELTS 7.0 neu gyffelyb cyn diwedd Mawrth 2013 fan hwyraf

Dyddiad cau cyffredinol y Brifysgol ar gyfer cystadleuaeth 2013 yw 1 Mawrth 2013.

D.S. Noder fod gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol a'r Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ddyddiad cau o 1 Chwefror 2013.

Gwerth yr Ysgoloriaethau

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael grant am hyd at dair blynedd a fydd yn talu am ffioedd dysgu (hyd at werth y DU/UE) o £3932 a hefyd yn rhoi lwfans cynhaliaeth o tua £13,590 iddynt a mynediad i gronfa teithio a chynadleddau hyd at £500 y flwyddyn Cychwynir yr ysgoloriaethau o'r prif fewnlif ar 23 Medi 2013.

Byddai rhaid i fyfyrwyr tramor (o du allan i'r UE) dalu'r gwahaniaeth rhwng ffioedd dysgu'r D.U./U.E. a'r rhai tramor. Fodd bynnag, bydd 3 ysgoloriaeth ychwanegol ar gael fydd yn talu'r gwahaniaeth hwn ar gyfer y tri ymgeisydd tramor gorau.

Y Gystadleuaeth

Rhaid cyflwyno'r cais ar gyfer PhD erbyn y dyddiad cau perthnasol. Nid oes ffurlflenni uchwanegol i ymgeisywr i'w cwblhau ar gyfer y gystadleuaeth. Seilir y penderfyniadau ar y ceisiadau am le i astudio ar gyfer PhD ac enwebiad yr adran berthnasol. Rhaid i geisidau gynnwyd ffurflen gais, dwy eirda academaidd, rhestr marciau academaidd a chynnig ymchwil (rhwng 1000 a 1500 o eiriau). Anogwn ymgeiswyr i gysylltu â'r adran academaidd berthnasol cyn llunio'u cynnig ymchwil.

Cyfwelir pob ymgeisydd cyn cynnig lle i astudio ar gyfer PhD a chyn enweu am ysgoloriaeth DCDS y Brifysgol.

Anfonir yr enwebiadau adrannol ymlaen i Swyddfa'r Deoniaid diwedd Mawrth i'w gwerthuso. Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Mai.

Caiff ymgeiswyr buddugol eu dewis ar sail eu ceisiadau ar gyfer mynediad, gan gynnwys eu cynigiad ymchwil a dau geirda academaidd. 

Gweler y rheoliadau a'r meini prawf isod gyfer gystadleuaeth llynedd.

Am ffurflenni cais a manylion pellach cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Graddedigion [derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk]

Y Rheoliadau

 - Rheoliadau ar gyfer Cynllun Ysgoloriaethau Doethurol i Ddatblygu Gyrfa (DCDS)

1.              Cymhwyster: I fod ar dir addas i dderbyn ysgoloriaeth, rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gofrestru yn fyfyrwyr uwchraddedig amser llawn ar gyfer gradd PhD neu PhDFA yn Aberystwyth, h.y. gradd ddoethur. Fel arfer, dylai ymgeiswyr feddu ar neu ddisgwyl ennill gradd yn yr ail ddosbarth uwch o leiaf. Gweler hefyd baragraff 5 isod.

2.              Preswyl: Rhaid i ddeiliaid yr ysgoloriaethau wneud eu gwaith ymchwil yn Aberystwyth a phreswylio yma am o leiaf 44 wythnos o'r flwyddyn. Os bydd deiliad ysgoloriaeth yn dymuno treulio cyfnod sylweddol yn rhywle heblaw Aberystwyth (e.e. ar gyfer gwaith maes estynedig), rhaid cael caniatâd y Dirprwy Is-Ganghellor priodol.

3.              Cyfnod yr Ysgoloriaeth: Yn amodol ar gynnydd boddhaol i’w gadarnhau’n flynyddol gan Bwyllgorau Adolygu Ymchwil Cyfadrannol ac Adrannol, fel arfer bydd ysgoloriaethau i’w dal am gyfnod o hyd at dair blynedd, gan gychwyn ar ddechrau’r sesiwn wedi’r gystadleuaeth, h.y. mis Medi. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol a chyda chaniatâd y Deon perthnasol y gellir gohirio gwobr. Lle bydd ymgeiswyr wedi dechrau eu gradd ymchwil cyn derbyn gwobr DCDS, bydd yr ysgoloriaeth yn gymwys ar gyfer gweddill y cyfnod cofrestru ac nid am y tair blynedd lawn. Mae parhad gwobr ar gyfer pob sesiwn academaidd newydd yn ddibynnol ar gynnydd boddhaol.

4.              Lefel y Wobr: Telir ffïoedd dysgu’r Deyrnas Unedig a grant cynhaliaeth a fydd yn cymryd i ystyriaeth graddfeydd presennol ysgoloriaethau’r Cynghorau Ymchwil (y D.U.). Serch hynny, ni fydd yr ysgoloriaethau DCDS yr un gwerth ag ysgoloriaethau’r Cynghorau Ymchwil o anghenraid. Bydd un swm cyffredin i’r holl fyfyrwyr amser llawn sy’n derbyn gwobrau DCDS. Gall deiliaid yr ysgoloriaethau wneud cais am gyfraniad cyfyngedig tuag at gostau gwaith maes, mynychu cynadleddau, neu deithiau eraill. Nid oes darpariaeth ar gyfer lwfans ychwanegol ar gyfer plant.  Rhaid i adran y myfyriwr dalu am gostau ymchwil eraill megis arolygon drwy'r post, defnyddiau treuliadwy mewn arbrofion, ….a.y.b..

5.              Dyfarniadau Cynghorau Ymchwil a Dyfarniadau Eraill: Anogir yn gryf holl ymgeiswyr ar gyfer y dyfarniadau DCDS hefyd wneud cais ar gyfer dyfarniadau Cynghorau Ymchwil i'w dal yn Aberystwyth, os maent ar gael, gan gynnwys myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n gymwys ar gyfer dyfarniadau’r Cynghorau Ymchwil sy’n talu ffïoedd yn unig. Bydd adrannau academaidd a'r Swyddfa Derbyn Graddedigion yn cynghori ymgeiswyr ar eu dewisiadau. Gall ymgeiswyr sy’n methu â dilyn cyngor eu hadrannau i gyflwyno cais i’r Cynghorau Ymchwil gael eu diystyried rhag dyfarniadau DCDS. Mae un eithriad i’r rheol hon: nid oes raid i ymgeiswyr oddi mewn i ofynion Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sy’n dal neu sy’n ymgymryd â gradd Meistr Arbenigol wneud cais ar gyfer dyfarniad 1+3 yr ESRC a fyddai’n gofyn iddynt ddilyn ail radd Meistr (Hyfforddiant Ymchwil). Byddai gofyn i’r myfyrwyr hyn ddilyn hyfforddiant ymchwil pan fyddant wedi eu cofrestru ar gyfer y PhD.

6.              Os bydd ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer dyfarniadau DCDS yn cael cynnig dyfarniad gan Gyngor Ymchwil neu ddyfarniad tebyg arall, rhaid iddo/iddi ildio’r dyfarniad DCDS. Lle bydd myfyrwyr yn ildio dyfarniadau DCDS i dderbyn dyfarniadau is eu gwerth gan Gyngor Ymchwil neu fel arall, bydd y Brifysgol yn sicrhau na fydd y myfyriwr dan anfantais. Felly, lle bydd myfyriwr yn derbyn dyfarniad Cyngor Ymchwil (ffïoedd yn unig), bydd y Brifysgol yn talu cynhaliaeth yn unol â graddfa’r DCDS. Oni cheir caniatâd y Dirprwy Is-Ganghellor, ni ellir dal dyfarniadau eraill ar yr un pryd ag Ysgoloriaeth DCDS.

7.              Cyfraniad Datblygu Gyrfa: Fel rhan o'r Ysgoloriaeth, bydd deiliaid yn ymgymryd â gwaith dysgu, ymchwil neu gyffelyb oddi fewn y Brifysgol.  Ni ddylai dyletswyddau o’r fath (sy’n cynnwys gwaith paratoi ac asesu cysylltiedig) gymryd mwy na chwe awr mewn unrhyw wythnos, na mwy na 180 o oriau mewn sesiwn academaidd (pa un bynnag yw’r mwyaf) yn unol â chanllawiau’r Cynghorau Ymchwil. Bydd disgwyl i ddeiliaid ysgoloriaethau sy’n ymgymryd â dyletswyddau dysgu fynychu unrhyw gyrsiau y bydd  Deon Astudiaethau Uwchraddedig yn eu gweld yn briodol. Ar wahân i ddyletswyddau o’r fath, ni chaniateir i ddeiliaid ysgoloriaeth ymgymryd ag unrhyw waith arall am dâl oni bai eu bod yn cael caniatâd gan y Dirprwy Is-Ganghellor priodol.

8.              Tynnu’n ôl dros dro ac yn barhaol: Os bydd deiliad ysgoloriaeth yn tynnu’n ôl o’r sefydliad yn barhaol, bydd yn ildio’i hawl i ysgoloriaeth. At hyn, bydd deiliad ysgoloriaeth sy’n tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn gorfod ad-dalu i’r sefydlad y cyfran hwnnw o’r arian cynhaliaeth chwarterol y mae eisoes wedi ei dderbyn am y cyfnod y bydd ef/hi wedi tynnu’n ôl. Ni ellir rhoi rhagor o daliadau cynhaliaeth i unigolyn ar ôl iddo/iddi dynnu’n ôl. Gall myfyrwyr y gorfodir iddynt dynnu’n ôl dros dro o’u hastudiaethau, gyda chaniatâd y Deon priodol, gael eu hysgoloriaethau wedi eu hatal hyd nes y gallant ailgydio yn eu hastudiaethau.

9.              Newid mewn amgylchiadau: Cyfrifoldeb y myfyrwyr fydd i hysbysu'r Swyddfa Derbyn Graddedigion yn uniongyrchol cyn gynted â phosibl o unrhyw newid yn eu hamgylchiadau, e.e. tynnu'n ôl dros dro, derbyn cyllid o ffynhonnell arall, sy'n effeithio ar eu hawl i ddal ysgoloriaeth.  Os na wneir hyn, gall arwain at golli'r ysgoloriaeth ac adennill unrhyw daliadau a wnaed.

10.           Anfonir copi o’r rheoliadau hyn a’r meini prawf a ddefnyddir gan y Deoniaid wrth benderfynu pa ymgeiswyr fydd yn derbyn ysgoloriaethau i ymgeiswyr llwyddiannus gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus nodi yn ogystal eu cyfrifoldebau am eu gwaith a amlinellir yng Nghanllawiau’r Brifysgol i Fyfyrwyr Ymchwil. Ni fydd unrhyw delerau nac amodau eraill mewn grym.

11.           Bydd unrhyw fyfyriwr sy’n derbyn Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig Aberystwyth yn cael ei ystyried yn fyfyriwr uwchraddedig i bwrpas hysbysu Cyngor Cyllido Uwch Cymru a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

12.    Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i dynnu’n ôl unrhyw ysgoloriaeth neu i ddiwygio’r telerau ar gyfer dal ysgoloriaeth. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ganddi’r hawl i gael yn ôl arian a dalwyd ganddi eisoes. 

Y Meini Prawf

 - Canllaw ynghylch dyfarnu ysgoloriaethau: Meini Prawf

1.             Tystiolaeth ynglŷn ag addewid ymgeisydd fel myfyriwr/myfyrwraig ymchwil

  • Gwaith israddedig perthnasol a/neu berfformiad ar lefel gradd Meistr
  • Tystiolaeth arall o lwyddiant mewn gweithgaredd ymchwil

2.             Cyfraniad yr astudiaeth arfaethedig i broffil ymchwil ac amcanion ymchwil yr Adran

     Y graddau y byddai yn cyd-fynd â diddordebau a blaenoriaethau ymchwil yr Adran, gan gynnwys y darpar arolygydd a sut y mae’r testun ymchwil arfaethedig yn gysylltiedig ag arbenigedd staff a grwpiau ymchwil.

3.        Datblygiad Gyrfa'r Ymgeisydd

  • Eflen o gyfraniad at ddatblygiad gyrfaol yr ymgwisydd ac i'r Adran, gyda hyfforddiant addas.

4.             Ansawdd y cais ymchwil

  • Eglurder y nodau ac amcanion ymchwil
  • Sylfaenir y cais yn y ddisgyblaeth/disgyblaethau academaidd perthnasol.
  • Ystyriwyd dulliau methodolegol priodol ac mae’r adnoddau ar gael yn yr adran i gefnogi’r fethodoleg.
  • Ceir addewid y bydd yr ymchwil arfaethedig yn gwneud cyfraniad gwreiddiol i ysgolheictod yn y maes

5.             Barn ar gais yr ymgeisydd ac ar ei (h)addewid fel ymchwilydd

  • Adroddiadau canolwyr. Nodwch fod y memo oddi wrth y Swyddfa Derbyn Graddedigion yn gofyn am ddau ganolwr academaidd ar gyfer pob ymgeisydd.
  • Tystiolaeth paham y blaenoriaethwyd y cais gan y pwyllgor Adrannol perthnasol
  • Tystiolaeth y bydd yr ymgeisydd yn medru cwblhau’r traethawd arfaethedig erbyn y dyddiad a nodir

*  Adrannau sy'n cymryd rhan a restrwyd oedd ar gyfer y derbyniad 2012 a gall fod yn amodol ar newidiau.