Costau byw i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig o'r DU a'r UE
Rydym yn amcangyfrif y bydd arnoch angen y cyfansymiau canlynol ar gyfer pob deuddeng mis o astudio i dalu am lety, cynhaliaeth a gwariant personol (mae'r holl ffigurau mewn punnoedd). Seilir y ffigyrrau isod ar arolwg o'n myfyrwyr yng ngwanwyn 2010 gyda cynnydd o 5% ychwanegol ar gyfer chwyddiant.
Gellir amcangyfrif y costau byw fel hyn (£):
Costau byw
| Costau byw blynyddol | Amcangyfrif isaf | Amcangyfrif canolig | Amcangyfrif uchaf |
|---|---|---|---|
| Llyfrau/ iTunes | £96 | £108 | £132 |
| Golchi dillad / Gofal opthalmig / Gofal deintyddol | £228 | £276 | £324 |
| Rhyngrwyd/ Dand-eang | £60 | £132 | £204 |
| Gwresogi | £144 | £228 | £312 |
| Ffôn | £132 | £288 | £432 |
| Teithio yn y Deyrnas Unedig | £324 | £456 | £600 |
| Dillad / Esgidiau | £132 | £384 | £636 |
| Hamdden / Bwyta allan / Cymdeithasu | £456 | £624 | £780 |
| Bwyd (ag eithrio bwyta allan ac alcohol) | £972 | £1,332 | £1,692 |
| Llety | £3,468 | £4,068 | £4,584 |
| CYFANSWM | £6,012 | £7,896 | £9,696 |
Sylwer nad yw'r Costau Byw hyn yn cynnwys teithio o'r wlad dramor i Aberystywth.
Noder mai amcangyfrif yw'r uchod o'r costau byw am 12 mis. Canllawiau ydynt gan y bydd rhai myfrywyr yn byw'n rhatach ac eraill yn gwario mwy.
Buasai costau byw ar gyfer cyrsiau byrrach (e.e. cwrs 10 mis yn Ymarferiad y Gyfraith (LPC)) wedi eu cyfrifo pro-rata (e.e. £6876 x 10/12 = £5730).
* Bydd angen i'r myfyrwyr hynny o du allan i'r EEA sydd angen visa i astudio yn y Deyrnas Unedig ddangos tystiolaeth i'r UK Border Agency y bod ganndynt ddigon o gyllid ar gyfer eu astudiaethau. Yr isafswm mae'r UKBA ei angen yw £600 y mis (h.y. cyfwerth â £7200 am 12 mis).
Noder nad yw'r costau uchod ar gyfer myfyrwyr tramor yn cynnwys costau teithio o'u gwlad i Aberystwyth ac yn ôl ac nid oes yna swm i'w gadw wrth gefn.
Gall myfyrwyr sy'n rhannu teledu rannu costau trwydded teledu felly gellir lleihau'r rhan yma o'r costau.