Ffioedd dysgu i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig o'r DU a'r UE
Nid yw'r ffioedd ar gyfer myfyrwyr o'r D.U. a gweddill yr U.E. ar gyfer 2013/2012 wedi eu cadarnhau eto. Gwneir hyn yn sgil penderfyniad Cynghorau Ymchwil y D.U. ar ffioedd tua mis Ebrill 2013. Dylai'r ffioedd dysgu isod ar gyfer y flwyddyn gyfredol roi rhyw ganllaw iddoch:
Ffioedd Dysgu (dros dro) Myfyrwyr y D.U. a gweddill yr U.E ar gyfer 2012/2013
| Math o gwrs | Astudio amser-llawn (£) | Astudio rhan-amser (£) |
|---|---|---|
|
Y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol PhD, MPhil, LLM trwy ymchwil |
3932 | 1966 |
|
Y Gwyddorau PhD, MPhil |
3932 | 1966 |
Mae yna ffioedd gwahanol i fyfyrwyr o’r Ynysoedd (h.y. Ynys Manaw, Ynys Jersey, Ynys y Garn, ac ati). Nid yw’r myfyrwyr hyn yn talu’r un ffioedd â myfyrwyr eraill y DU. Nid yw’r ffioedd hyn wedi cael eu cadarnhau eto ar gyfer 2012-2013. Disgwylir penderfyniad ym mis Ebrill. Y ffioedd a ddangosir isod yw’r ffioedd ar gyfer sesiwn 2011-2012.
Ffioedd dysgu i fyfyrwyr uwchraddedig o'r Ynysoedd
| Math o Gwrs | Astudio amser-llawn (£) | Astudio rhan-amser (£) |
|---|---|---|
|
Y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol MA, MScEcon, LLM, MPhil, PhD |
6194 | 3097 |
| Y Gwyddorau Diploma, MSc, MPhil, PhD | 9867 | 4934 |
| Cyrsiau Eraill Hanes a Hanes Cymru, Cyfrifiadureg, Mathemateg, Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu | 7768 | 3884 |
Mae’r holl gostau uchod yn amodol ar gadarnhad, ac maent yn cynyddu’n flynyddol yn unol â chwyddiant.
Costau Cwrs Ychwanegol
Dylech gofio fod costau ychwanegol ar gyfer rhai cyrsiau yn ystod eich astudiaethau, e.e. ar gyfer teithiau maes a defnyddio adnoddau ychwanegol, ac mae’r rhain yn unol ag arfer adrannau mewn prifysgolion eraill yn y DU.
Y Gwyddorau Amaethyddol a Biolegol
Efallai y bydd yn rhaid codi ffioedd ychwanegol o hyd at uchafswm o £3,000 y flwyddyn am ymchwil yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig sy’n ymwneud ag anifeiliaid mawr neu gyfansymiau sylweddol o adweithyddion traul, sy’n gallu bod yn gostus iawn. Mae pa un ai y byddwn yn codi costau ychwanegol ai peidio a chyfanswm y costau ychwanegol hyn yn amodol ar natur yr ymchwil a wneir. Bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am unrhyw gostau o’r fath yn ystod camau cynnar y broses o gynnig lle.