Gwneud cais oddi ar-lein
Os hoffech wneud cais drwy’r post neu’r e-bost, neu os ydych am wneud cais am raglen lle mae’n rhaid i chi wneud cais oddi ar-lein, darllenwch y canllawiau isod.
Gwneud cais ar bapur (drwy’r post neu’r e-bost)
- Dylech lawrlwytho’r canllawaiau ar gyfer ymgeisio i’ch helpu i lenwi’r ffurflen gais yn gywir;
- Dylech lawrlwytho a llenwi dau gopi o’r ffurflen gais uwch 2012.pdf neu ffurflen gais uwch 2012.rtf ;
- Dylech lawrlwytho copïau o’r Ffurflen Geirda ar gyfer cyrsiau Meistr a PhD . Ewch i’r dudalen Cyn i chi wneud cais i gael rhagor o wybodaeth am eirdâu.
Anfonwch eich ffurflenni cais, ynghyd â’r geirdâu ac unrhyw ddogfennau ategol eraill, i’r Swyddfa Derbyn Graddedigion.
Swyddfa Derbyn Graddedigion
Canolfan Croesawu Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
SY23 3FB
Ffon: (01970) 622270
Ffacs: (01970) 622921
Ebost: derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk
Fel arall, gallwch ofyn am gopi o’r Prosbectws Uwchraddedig, sy’n cynnwys ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd.
Rhaglenni eraill
BScEcon Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth drwy Ddysgu o Bell
Mae'r Tim Derbyn Graddedigion hefyd yn gweinyddu ceisiadau am le ar y cwrs hwn. Nid oes modd gwneud cais am le ar y cwrs hwn ar-lein drwy UCAS neu UKPASS.
Gwneud cais am le ar y cwrs hwn:- Dylech lawrlwytho a llenwi dau gopi o’r Ffurflen Gais ar gyfer BScEcon Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth drwy Ddysgu o Bell ;
- Dylech lawrlwytho un copi o’r Ffurflen Geirda ar gyfer cwrs BScEcon ILS Dysgu o Bell ;
- Fel arall, gallwch anfon e-bost at pg-admissions@aber.ac.uk yn gofyn i ni anfon y ffurflenni cais a geirda atoch drwy’r post.
Anfonwch eich ffurflenni cais, ynghyd ag un geirda ac unrhyw ddogfennau ategol eraill, i’r Swyddfa Derbyn Graddedigion.
Swyddfa Derbyn GraddedigionCanolfan Croesawu Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
SY23 3FB
Ffon: (01970) 622270
Ffacs: (01970) 622921
Ebost: derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk