Gwneud cas ar-lein

Mae gwneud cais ar-lein am le ar raglen gradd uwchraddedig yn ffordd gyflym a hwylus o ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar ein staff derbyn er mwyn ystyried eich cais. Gallwch ddefnyddio system ar-lein UKPASS ar gyfer y rhan fwyaf o’r graddau meistr a ddysgir, y tystysgrifau a’r diplomau uwchraddedig a’r cyrsiau proffesiynol yn Aberystwyth, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais i astudio ar sail amser llawn, rhan-amser neu o bell.


Cyn gwneud cais ar-lein

    • Gwnewch yn siwr bod gennych gopïau o’r holl ddogfennau ategol, fel trawsgrifiadau a chanlyniadau profion Saesneg – gallwch eu hatodi at y ffurflen ar-lein neu’u hanfon drwy’r e-bost;


    • Darllenwch am sut i ddefnyddio UKPASS;

  • Dilynwch gyfarwyddiadau’r ffurflen ar-lein yn ofalus.

Gwnewch gais nawr

Eisoes wedi gwneud cais? Gallwch fewngofnodi yma.


Angen help gyda’ch cais?

Os nad oes modd i chi atodi copïau o’ch dogfennau ategol at y ffurflen ar-lein, dylech anfon copïau caled neu atodiadau e-bost at:

Swyddfa Derbyn Graddedigion
Canolfan Croesawu Myfyrwyr
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
SY23 3FB
Ffon: (01970) 622270
Ffacs: (01970) 622921
Ebost: derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk

Mwy o Wybodaeth