Cyn i chi wneud cais
Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r wybodaeth ychwanegol sydd rhaid i chi ei ddarparu cyn i gellid ystyried eich cais yn un cyflawn.
Dogfenaeth cefnogol
Yn ogystal â’r wybodaeth ofynnol ar y ffurflen gais, rhaid i chi atodi gopïau o’r dogfennau canlynol i’ch cais (bo hynny ar-lein neu oddi ar lein):
- Rhestr marciau prifysgol
- Tystysgrifau gradd (os ydych wedi graddio eisioes)
- Datganiad personnol
- Curriculum Vitae (MBA)
- Dau Eirdau
- Cynnig ymchwil (for MPhil/ PhD applicants only)
Os na allwch ddarparu’r holl ddogfenaeth ychwanegol adeg cyflwyno’ch cais, bydd ein tîm Derbyn Graddedigion yn cysylltu â chi.
Geirdau
Mae angen dau eirda ar gyfer phob cais Uwchraddedig.
Dylai rhain fod yn eirdau academaidd oni bai y nodir yn whannol.
Os na gyflwynwch eirdau gyda’ch cais, ni ellir ei brosesu.
Yn ogystal â’r geirda academaidd, rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr MBA, Meistr mewn Gweinyddu Archifau, Rheolaeth Cofnodion a Gwybodaeth a Llywodraeth a Sicrwydd Gwybodaeth, gynnwys geirda proffesiynol i adrodd ar eich profiad gwaith.
Derbyniwn geirda wedi eu selio mewn amlenni, fersiynau wedi eu sganio ar babpur swyddogol, neu ar e-bost yn syth oddi wrth canolwr ar eu cyfrif swyddogol yn eu prifysgol neu gwaith a’i anfon at derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk. Gellwch atodi geirda wedi sganio i’ch cais ar-lein. Cadwch gopi o’r ddogfen gwreiddiol.
Mae’r Brifysgol yn darparu ffurflenni gellid eu lawrlwytho ar y dudalen cais oddi ar lein. Gellwch anfon rhain ymlaen at eich canolwyr er mwyn iddynt eu cwblhau a’u dychwelyd i’r Brifysgol. Gwelwch ein tudalen am wneid cais oddi ar-lein am fanylion cyswllt.
Ymgeiswyr Ymchwil
Os ydych yn gwneud cais am radd ymchwil (MPhil/LLM drwy Ymchwil/PhD) dylech:
- wirio’r diddordebau ymchwil ar wefan yr adran berthnasol i ganfod os allwn gynnig y cyfarwyddid arbenigol yn eich maes dewisiedig;
- paratowch gynigiad ymchwil (1,000 i 1,500 o eiriau) i amlinellu’r prosiect ymchwil ‘rydych eiaisu ei astudio (nid yw hyn yn berthnasol i ymgeiswyr ar gyfer Mathemateg a Ffiseg);
- cyflwynwch cais cyflawn (unai ar-lein neu oddi ar-lein) gyda’r holl ddogfenaeth cynorthwyol gan gynnwys y cynigiad ymchwil a nodwch sut y bwriedir cyllido’r astudiaeth ymchwil.
Myfyrwyr gydag anableddau/anghenion ychwanegol
Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol a/neu gofynion cymorth mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r Brifysgol fel y gellid trefnu cymorth addas. Sicrhewch eich bod yn datgan eich cyflwr ar y ffurflen gais. Anogir chwi i gyflwyno’ch cais yn gynnar yn y flwyddyn er mwyn rhoi digon o amser i drefnu’r cymorth.