Cyrsiau Uwchraddedig
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig nifer o gyrsiau Uwchraddedig, ac mae enw da ganddi ar gyfer safon ei dysgu ac ymchwil.
Os ydych am wybod mwy am gyrsiau penodol, cysylltwch â'r adran briodol os gwelwch yn dda.
Gwahanol Fathau o Gyrsiau
Amser-llawn
Mae Aberystwyth yn cynnig profiad academaidd preswyl arbennig os ydych am ddilyn astudiaethau amser-llawn. Bydd myfyrwyr sydd ag absenoldeb astudio o'u gwaith neu sy'n ystyried addysg uwch fel rhan o newid gyrfa yn ei chael hi'n haws ymroi i'w hastudiaethau yn awyrgylch academaidd Aberystwyth.
Graddau Allanol
Gallwn fod yn hyblyg iawn wrth eich galluogi i wneud eich ymchwil yn eich gweithle, naill ai am eich bod eisiau archwilio pwnc sydd â pherthnasedd penodol i'ch gyrfa neu eich cyflogwr, neu i allu defnyddio cyfarpar neu adnoddau arbenigol (er enghraifft archifau corfforaethol) nad oes gan y Brifysgol. Mae'r math hwn o raglen yn aml yn arbennig o ddeniadol ar gyfer academyddion tramor sydd am uwchraddio eu cymwysterau addysgol heb adael eu swyddi prifysgol.
Rhan-amser
Mae nifer o'n cyrsiau uwchraddedig ar gael yn rhan-amser fel y gallwch barhau gyda'ch gyrfa a'ch astudiaethau ar yr un pryd. Fel arfer nid oes rhaid i fyfyrwyr ymchwil rhan-amser (LLM drwy ymchwil, MPhil a PhD) breswylio yn Aberystwyth. Penderfynir y gofynion presenoldeb gan y Pennaeth Adran priodol. Anogir myfyrwyr ymchwil rhan-amser i fynychu Modiwlau Hyfforddiant Ymchwil y Brifysgol, pan fo hynny'n ymarferol.
Dysgu o Bell
Defnyddir y term Dysgu o Bell i ddisgrifio dull amgen o gyflwyno cyrsiau a ddysgir drwy pecynnau astudio ac ysgolion astudio yn hytrach na'r ddarlith draddodiadol neu ddull y seminarau.
Mae ein cyrsiau dysgu o bell yn eich galluogi i astudio am radd uwch heb i chi orfod gadael eich swydd neu eich cartref, heblaw ar gyfer mynychu ysgolion astudio preswyl byr. Mae'r dull hwn o ddysgu yn annog myfyrwyr i fod yn gryf eu cymhelliad, i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu, ac i reoli eu hamser yn effeithiol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae Dysgu o Bell Aberystwyth yn cynnig cyrsiau mewn Astudiaethau Gwybodaeth neu'r Gyfraith a Throseddeg yn unig.
Myfyrwyr sy'n Ymweld ac Astudio Uwchraddedig heb Gymhwyster
Cynllunir llawer o'n cyrsiau a ddysgir gyda'r amcan o gyfarfod ag anghenion cyfredol cyflogaeth. Mae'r dulliau gwahanol o astudio a ddisgrifir uchod yn bodoli er mwyn cymhwyso ac ategu llwybrau gyrfaoedd unigol. Gall fod goruchwylwyr allanol gan fyfyrwyr ymchwil yn ogystal â rhai yn y sefydliad. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn cyngor a chyfeiriad perthnasol i yrfa yn y dyfodol.
Mae'r Brifysgol yn croesawu pob cais gan unigolion sydd am fynychu'r sefydliad fel myfyrwyr sy'n ymweld, a bydd y manylion yn cael eu cwblhau gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion a'r Adran berthnasol.