Cyrsiau Dysgu o Bell

Mae Dysgu o Bell yn ddull hyblyg o astudio sy’n eich galluogi i weithio ar eich cyflymdra eich hun yn eich lle eich hun.

Mae Aberystwyth yn cynnig cyrsiau Meistr trwy Ddysgu o Bell yn Adran y Gyfraith a Throseddeg a’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth. Mae gan yr adrannau hyn ddull dysgu agored, hyblyg sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, ac mae’r dull hwn wedi bod yn boblogaidd â’n myfyrwyr ac yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau bod astudio o bell yn brofiad mor wobrwyol a phleserus â phosibl. Mae ein myfyrwyr dysgu o bell yn cymryd rhan mewn ysgolion astudio preswyl ac yn cael eu cefnogi gan adnoddau cynadledda ar y we sy’n eu galluogi i gyfathrebu â’i gilydd ac â thiwtoriaid y cwrs. Mae hyn yn esmwytho’r teimlad o unigedd y gall dysgwyr o bell ei brofi weithiau.

Fel rheol bydd yn rhaid i’r myfyrwyr fynd ar ysgolion preswyl neu ysgolion astudio yn Aberystwyth ar adegau gwahanol yn ystod eu hastudiaethau. Mae’r rhain yn eich galluogi i gymryd rhan mewn astudiaethau achos, trafodaethau ac ymarferion eraill a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r materion a astudir. Maent hefyd yn rhoi cyfle gwych i chi gael cyfarwyddyd unigol ynghylch eich gwaith cwrs neu unrhyw broblemau eraill sydd gennych. Darllenwch ddisgrifiadau’r cwrs yn ofalus i sicrhau eich bod yn deall unrhyw ymrwymiadau posibl y bydd yn rhaid i chi eu gwneud yn y  maes hwn.