Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Ymchwil
Rhagoriaeth mewn Ymchwil
Yn Asesiad Ymchwil 2008 roedd pob cyflwyniad ymchwil yn derbyn Proffil Safon sydd yn nodi pa ganran o weithgareddau ymchwil yn y cyflwyniad hwnnw oedd, yn ôl yr asesiad, yn cyrraedd pum lefel ansawdd, o safbwynt gwreiddioldeb, arwyddocâd a chywirdeb: 4* (O safon fyd-eang), 3* (Rhagoriaeth ryngwladol), 2* (Cydnabyddiaeth ryngwladol), 1* (Cydnabyddiaeth Genedlaethol) a Di-ddosbarth.
Mae’r canlyniadau yn dangos fod 85% o’r gweithgareddau ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth o safon ryngwladol a bod ymchwil o safon fyd-eang wedi ei nodi mewn 15 o’r 16 pwnc gafodd eu cyflwyno.
Golyga hyn fod Prifysgol Aberystwyth bellach yn ail i Gaerdydd yng Nghymru o ran safon ymchwil yn ôl dau gyhoeddiad blaenllaw, y Times Higher Education Supplement (THES) a Research Fortnight. Mae’r Research Fortnight RAE2008 Quality Index of University Research yn gosod Aberystwyth yn safle 41 allan o 119 yn y Deyrnas Gyfunol, ac yn ôl y THES mae Prifysgol Aberystwyth wedi dringo 15 lle i safle 45 allan o 132 prifysgol.
Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos fod 48% o waith ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth o safon fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol a bod 97.4% o ymchwilwyr yn gweithio mewn disgyblaethau lle mae gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn cael ei wneud.
Mae dros 60% o waith ymchwil mewn pum adran academaidd (1 o bob 3 o’r cyflwyniadau) wedi derbyn gradd 4* neu 3* sef Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Cyfrifiadureg, IBERS, Cymraeg a Theatr, Ffilm a Theledu.