Rhestr o'r gwahanol fathau o Gyrsiau

Amser-llawn

Mae Aberystwyth yn cynnig profiad academaidd preswyl eithriadol i chi os hoffech ymgymryd ag astudiaeth amser-llawn. Bydd myfyrwyr sydd wedi cymryd absenoldeb astudio neu sy'n ystyried addysg uwch fel ffordd o newid gyrfa yn ei gweld hi'n haws ymroi eu hunain i'w hastudiaethau yn amgylchedd academaidd Aberystwyth.

Rhan-amser

Mae llawer o'n cyrsiau uwchraddedig ar gael yn rhan-amser er mwyn i chi allu parhau â'ch gyrfa a'ch astudiaethau ar yr un pryd. Fel rheol nid oes raid i fyfyrwyr ymchwil rhan-amser (LLM trwy ymchwil, MPhil, a PhD) fyw yn Aberystwyth. Pennaeth yr Adran sy'n penderfynu ar y gofynion presenoldeb. Pan fo'n bosibl, anogir myfyrwyr ymchwil rhan-amser i astudio Modiwlau Hyfforddiant Ymchwil y Brifysgol.

Dysgu o Bell

Mae Dysgu o Bell yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio dull gwahanol o gyflwyno cyrsiau a ddysgir trwy gwrs trwy becynnau astudio ac ysgolion astudio yn hytrach na'r dull arferol o ddefnyddio darlithoedd a seminarau.

Mae ein cyrsiau dysgu o bell yn eich galluogi i astudio ar gyfer graddau uwch heb adael eich swydd neu'ch cartref, heblaw pan fyddwch yn mynd ar ysgolion astudio preswyl byr. Mae'r dull hwn o ddysgu yn annog y myfyrwyr i fod yn gryf eu cymhelliad, i fod yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain, ac i reoli eu hamser yn effeithiol. Ond, ar hyn o bryd yn Aberystwyth, dim ond y cyrsiau canlynol y gellir ymgymryd â hwy trwy Ddysgu o Bell: Astudiaethau Gwybodaeth, y Gyfraith a Throseddeg.

Graddau Ymchwil Allanol neu Hollt

Gallwn fod yn hyblyg iawn i'ch galluogi i gynnal ymchwil yn eich lle gwaith, naill ai oherwydd eich bod eisiau ymchwilio i bwnc sy'n arbennig o berthnasol i'ch gyrfa neu'ch cyflogwr, neu er mwyn defnyddio offer neu adnoddau arbenigol (er enghraifft archifau corfforaethol) nad ydynt ar gael yn y Brifysgol. Mae rhaglen o'r fath yn aml yn atyniadol iawn i academyddion o dramor sydd eisiau uwchraddio eu cymwysterau academaidd heb adael eu swyddi prifysgol.

Myfyrwyr ar Ymweliad ac astudiaethau uwchraddedig heb gymhwyster

Mae llawer o'n cyrsiau a ddysgir trwy gwrs wedi'u llunio i fodloni gofynion cyflogaeth presennol. Mae'r dulliau astudio gwahanol a ddisgrifir uchod yn bodoli i gymhwyso ac ategu llwybrau gyrfaol unigol. Gall myfyrwyr ymchwil gael goruchwylwyr allanol yn ogystal â'r rhai yn y sefydliad. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael cyngor a chyfarwyddyd sy'n berthnasol i'ch gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu pob cais gan unigolion i ddod i'r sefydliad fel myfyrwyr ar ymweliad, a chaiff y manylion eu cwblhau gan y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion a'r Adran berthnasol.