Dysgu o Bell

Defnyddir y term Dysgu o Bell i ddisgrifio dull amgen o gyflwyno cyrsiau a ddysgir drwy pecynnau astudio ac ysgolion astudio yn hytrach na'r ddarlith draddodiadol neu ddull y seminarau.

Mae ein cyrsiau dysgu o bell yn eich galluogi i astudio am radd uwch heb i chi orfod gadael eich swydd neu eich cartref, heblaw ar gyfer mynychu ysgolion astudio preswyl byr.  Mae'r dull hwn o ddysgu yn annog myfyrwyr i fod yn gryf eu cymhelliad, i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu, ac i reoli eu hamser yn effeithiol.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae Dysgu o Bell Aberystwyth yn cynnig cyrsiau mewn Astudiaethau Gwybodaeth neu'r Gyfraith a Throseddeg yn unig.