Cyrsiau ymchwil uwchraddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth
Rhaglenni ymchwil: Mae'r rhaglenni hyn wedi'u seilio yn gyfangwbl neu i raddau helaeth ar ymchwil y myfyriwr ei hunan o dan arweiniad o leiaf un goruchwyliwr. Bydd casgliadau'r ymchwil yn cael eu cyflwyno fel traethawd ymchwil. Cefnogir astudiaethau doethuriaethol yn y flwyddyn gyntaf gan Raglen Hyfforddiant Ymchwil y Brifysgol. Mae gan y rhaglenni hyn ffocws arbennig ar hyfforddiant ymchwil ac maent wedi'u seilio yn llwyr neu i raddau helaeth ar ymchwil y myfyriwr ei hunan o dan arweiniad o leiaf un goruchwyliwr. (PhD, MPhil a LLM drwy Ymchwil)
Mae cyrsiau ymchwil yn Aberystwyth yn cynnwys graddau yn y meysydd pwnc canlynol:
- Celf
- Gwyddorau Biolegol, Gwyddor Daear a Gwyddorau Gwledig
- Cyfrifiadureg
- Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
- Ieithoedd Ewropeaidd
- Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
- Hanes a Hanes Cymru
- Astudiaethau Gwybodaeth
- Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- Cyfraith a Throseddeg
- Mathemateg a Ffiseg
- Seicoleg
- Ysgol Rheolaeth a Busnes
- Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer
- Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu
- Cymraeg a Ieithoedd Celtaidd
Am fwy o fanylion am unrhyw un o'r cynlluniau gradd, cysyllter â'r adran briodol
Noder : Bydd angen i fyfyrwyr o du allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd wedi derbyn lle i astudio yn llawn amser ar raglenni PhD neu MPhil mewn rhai pynciau gwyddonol penodol gael gafael ar dystysgrif ATAS cyn gwneud cais am fisa myfyriwr o dan haen 4 y System Seiliedig ar Bwyntiau.