Y Gymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd

Am ganrif a mwy mae Adran y Gymraeg Aberystwyth wedi bod yn ganolfan ymchwil o fri rhyngwladol. Mae arbenigedd ei 12 aelod o staff dysgu yn rhychwantu pob maes a chyfnod yn iaith a llenyddiaeth Cymru yn ogystal ag Astudiaethau Celtaidd. Rydym yn cynnig hyfforddiant a goruchwyliaeth i fyfyrwyr ymchwil (MPhil neu PhD), ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â chymwysterau da.

Mae Adran y Gymraeg wedi'i lleoli yn yr Hen Goleg ar lan y môr. Mae'r prif gampws, hanner milltir i ffwrdd, yn gartref i Lyfrgell Hugh Owen sydd â chasgliadau Cymraeg a Cheltaidd arbennig. Gerllaw mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o'r llyfrgelloedd hawlfraint prin ym Mhrydain. Mae ei llawysgrifau a'i harchifau yn brif adnodd i ysgolheigion Cymru.

Mae gan y Brifysgol ddiwylliant uwchraddedig bywiog: cynhelir seminarau ymchwil rheolaidd yn Adran y Gymraeg ac mewn adrannau eraill, a gall y myfyrwyr hefyd fynd i seminarau yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae digonedd o gyfleodd ar gael i ddatblygu rhuglder yn y Gymraeg ac i ymarfer Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban gyda graddedigion ac israddedigion eraill mewn grwpiau anffurfiol.