Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Wedi'i sefydlu ym 1919, yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw'r adran hynaf o'i bath yn y byd. Mae gennym enw da rhyngwladol am ein hymchwil, enw da a gydnabyddir lle bynnag y caiff y pwnc ei astudio. Cafodd rhagoriaeth ymchwil yr Adran ei gydnabod yn yr Arolwg Ymchwil diweddaraf, lle dyfarnwyd y radd uchaf i ni, sef 5*A. Yn yr un modd, dyfarnwyd bod ansawdd dysgu’r Adran yn ‘Ardderchog’ gan y Cyngor Cyllido Addysg Uwch – sef y dyfarniad uchaf posibl.

Yn ddiweddar mae'r Adran wedi symud i adeilad newydd pwrpasol o'r radd flaenaf sy'n darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i staff a myfyrwyr fel ei gilydd ac yn adlewyrchu enw da byd-eang yr Adran.