Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
A hithau wedi'i sefydlu ym 1973, mae'r Adran yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau ymarferol, dylunio ac academaidd sy'n ymwneud ag astudio Theatr, Perfformio, Teledu, Ffilm, y Cyfryngau a Chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel uwchraddedig.
Mae gan yr adran amrywiaeth eang o adnoddau ardderchog, gan gynnwys:
- 2 theatr stiwdio newydd sbon sydd â'r holl offer angenrheidiol
- 4 ystafell ymarfer
- 11 ystafell golygu fideos digidol, recordio a gwylio
- 3 system oleuo gyfrifiadurol
- Systemau sain digidol ac analog gydag adnoddau recordio amldrac a phrosesu effeithiau digidol
- Grid trampolîn ac adnoddau theatr llawn
- Adnoddau gwisgoedd a chwpwrdd dillad
- Adnoddau taflunio fideo a digidol
- Adnoddau dylunio senograffig gyda chymorth cyfrifiadurol.
Mae adeilad Parry-Williams hefyd yn gartref i stiwdios darlledu BBC y Canolbarth, ac mae gan yr Adran fynediad at Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth ar gampws Penglais a'r stiwdios lle mae cynyrchiadau'r myfyrwyr yn cael eu llwyfannu'n aml. Mae llawer o adnoddau eraill ar gael hefyd yn y dref ac o'i hamgylch.