Astudiaethau Cymraeg a Cheltaidd

Ers ei chychwyn cyntaf mae'r Adran wedi bod yn ganolfan ymchwil, ac mae ein henw da am ymchwil yn cael ei gynnal yn weithredol heddiw. Dyfarnwyd gradd 5*A i'r Adran yn yr Asesiad Ymchwil diwethaf ar sail cyhoeddiadau a diddordebau ymchwil ei staff, a bellach mae gennym yr Ysgol i Raddedigion fwyaf ymhlith unrhyw adran Gymraeg neu Geltaidd yn y DU.

Mae'r adnoddau llyfrgell i ymchwilwyr yn y Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd yn ardderchog yn Aberystwyth: ar wahân i'r casgliadau Cymraeg a Cheltaidd cyfoethog yn Llyfrgell Hugh Owen y Brifysgol, mae'r Adran yn manteisio ar agosrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda'i chasgliad hynod o gyfnodolion, llyfrau argraffedig a llawysgrifau Cymraeg.