Hanes a Hanes Cymru

Mae Hanes wedi cael ei ddysgu fel pwnc ym mhrifysgolion Prydain ers dros ganrif. Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ym 1872 ac mae Hanes wedi cael ei ddysgu fel pwnc ers ei sefydlu. Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru wedi'i lleoli ar Gampws y Brifysgol ger Llyfrgell y Brifysgol, yr Undeb, y Neuadd Chwaraeon a'r rhan fwyaf o'r Neuaddau Preswyl. Mae gan yr Adran ddeunaw o athrawon, sydd ag arbenigedd dysgu ac ymchwil amrywiol iawn, ac sydd â chysylltiadau agos â chanolfannau astudiaeth hanesyddol eraill yn y Brifysgol. Gan mai llyfrau yw arfau'r hanesydd, mae'n werth nodi bod Aberystwyth wedi'i gwasanaethu'n dda yn hyn o beth. Mae Llyfrgell y Brifysgol, a adeiladwyd dros ganrif, yn dda iawn. Hefyd, Aberystwyth yw cartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o bum llyfrgell hawlfraint yn y DU: mae ei hadnoddau arbennig o lyfrau a llawysgrifau yn cynyddu apêl Aberystwyth i'r hanesydd. Buddsoddwyd llawer mewn Technoleg Gwybodaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Aberystwyth yn cynnig adnoddau a chyfleusterau cyfrifiadurol ardderchog, gydag amrediad o gyrsiau hyfforddi sy'n briodol ar gyfer y dyniaethau a digonedd o weithfannau i alluogi'r myfyrwyr i weithio'n annibynnol.

Mae natur eang addysg hanesyddol yn baratoad cyffredinol ardderchog ar gyfer nifer fawr o yrfaoedd. Mae llawer o'n graddedigion yn mynd ymlaen i ddysgu, i weithio mewn amgueddfeydd neu archifau (h.y. gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â hanes); ond mae mwy a mwy ohonynt yn mynd ymlaen i weithio mewn meysydd gwahanol iawn gan gynnwys, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y llywodraeth leol a chanolog, bancio, cyfrifeg, rheoli, hyrwyddo gwerthiant, newyddiaduriaeth, yr heddlu, y lluoedd arfog, ac ati.

  • MA Hanes Celtaidd Cymharol
  • MA Hanes Cymdeithasol ac Economaidd Cymru
  • MA Prydain y Ddeunawfed Ganrif
  • MA Sgiliau Treftadaeth
  • MA Haneswyr a Llunio Hanes
  • MA Hanes Diwylliant Poblogaidd
  • MA Hanes Cymru
  • MA Hanes y Cyfryngau
  • MA Prydain yr Oesoedd Canol ac Ewrop
  • MA Prydain Fodern ac MA Ewrop Fodern
  • MA Ynysoedd Prydain, c.1536-1801