Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Sefydlwyd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth ym 1919 yn adwaith yn erbyn rhyfel – a hi felly oedd yr adran gyntaf o’i bath, ac yr oedd yn fenter academaidd a delfrydyddol. Mae'r Adran yn ymroddedig i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol. Fel un o'r adrannau mwyaf yn Ewrop, rydym yn cynnig amrediad o raglenni a chyfleoedd, ac amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i fyfyrwyr uwchraddedig. Mae'r ysgol i raddedigion yn rhan annatod o fywyd yr Adran, ac mae'n denu rhai o'r myfyrwyr gorau ledled y byd. Rydym yn falch iawn o'n myfyrwyr, ac mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn y byd academaidd ac mewn galwedigaethau eraill.