Addysg a Dysgu Gydol Oes
Mae gan yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ei chanolfan adnoddau a'i llyfrgell arbenigol ei hun, sy'n darparu amrywiaeth eang o ddeunyddiau i gynorthwyo gwaith y myfyrwr, ac adnoddau astudio a chyfrifiadurol llawn.
Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru
O 2010 bydd yr holl gyrsiau Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn cael eu darparu gan Ganolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd Prifysgolion Aberystwyth a Bangor yn cydweithio o dan enw’r Ganolfan i roi hyfforddiant mewn pynciau TAR Uwchradd yn y rhanbarth hwn.
Bydd y cwrs yr ydych wedi dangos diddordeb ynddo ar gael yn Aberystwyth yn ystod yr wythnosau a dreulir yn y Brifysgol yn unig (cyfanswm o 12 wythnos yn ystod mis Medi, mis Ionawr a mis Mehefin). Ond, bydd elfen profiad ysgol y cwrs (24 wythnos, sy’n cynnwys lleoliadau mewn dwy ysgol wahanol) ar gael ledled y rhanbarth yn ysgolion y bartneriaeth.
Efallai yr hoffech wneud eich ymarfer dysgu mewn ardal benodol a byddwn yn eich gwahodd i nodi eich dewisiadau yn ystod y broses gwneud cais. Wrth ddewis profiad dysgu ar eich cyfer, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch rhoi yn yr ardal o’ch dewis.
Felly, fe’ch gwahoddir i wneud cais fel rheol drwy’r wefan GTTR gan ddilyn y ddolen i’ch pwnc dewisol ar safle darparwr Prifysgol Aberystwyth (neu safle darparwr Prifysgol Bangor am gwrs sydd ar gael ym Mangor).
Pob hwyl â’ch cais. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes arnoch angen rhagor o gymorth trwy e-bostio pg-admissions@aber.ac.uk neu trwy gysylltu â ni ar y rhif canlynol (01970) 621957