Ffair Astudiaethau Uwchraddedig
Fe wnaeth llawer o israddedigion y llynedd ddewis aros yn Aberystwyth ar gyfer astudiaethau uwchraddedig. Ceir nifer o resymau dros hyn, ac un o’r rhesymau allweddol yw fod Uwchraddedigion yn 40% yn fwy cyflogadwy ac yn ennill tipyn mwy. Rydym wedi trefnu’r ffeiriau astudio uwchraddedig a ganlyn ar eich cyfer chi:
Archebwch eich lle nawr
Bydd y ffair astudiaethau uwchraddedig ar yr un diwrnod â’r diwrnod agored uwchraddedig sy’n cychwyn am 11:30 ym Medrus. Mae pob croeso ichi fynd i’r ddau ddigwyddiad, os dymunwch, ond mae’n debyg y bydd sesiwn y prynhawn fydd yn cael ei gynnal rhwng 13:30 a 17:30 yn y Brif Ystafell, Undeb y Myfyrwyr, yn fwy defnyddiol i chi.
Dyma rai o’r manteision o fynychu’r digwyddiad:
- Pennu eich llwybrau dilynian
- Cael gwybod mwy am ysgoloriaeth ‘AberGrad’ a beth fydd yn ei olygu i chi
- Archwilio’r sgiliau a’r cymwysterau a ddarperir ar gyfer eich cyflogadwyedd yn y dyfodol
- Trafod y broses o wneud cais