Seicoleg yn Aberystwyth
Seicoleg yw’r adran ieuaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi tyfu’n gyflym mewn ychydig o flynyddoedd oherwydd bod cymaint o alw am y pwnc ymhlith myfyrwyr. Mae twf aruthrol Seicoleg a’i phoblogrwydd wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau ni, a disgwyliadau ein myfyrwyr. Mae’r Adran Seicoleg yn dal i feithrin cysylltiadau dysgu ac ymchwil â’r byd ehangach yn ogystal ag o fewn y Brifysgol ei hun. Un agwedd unigryw ar y cyrsiau anrhydedd cyfun yw eu bod wedi’u datblygu o egwyddorion sylfaenol i gyfuno cryfderau seicoleg â chyfraniadau adrannau eraill yn y Brifysgol. Nod ein holl gynlluniau gradd seicoleg yw helpu’r myfyrwyr wrth iddynt ddysgu sut mae seicoleg yn gallu ategu eu hastudiaethau mewn amrywiaeth o bynciau a sut mae seicoleg ddamcaniaethol yn cyfrannu at fwyfwy o feysydd cymhwysol.Ar hyn o bryd mae seicoleg fel gradd anrhydedd sengl ac deg gradd gyfun ar gael. Am ragor o fanylion am y cynlluniau gradd, gweler Cyrsiau i Israddedigion.
Pa gwrs bynnag yw’r un gorau i chi, fe ddaw yn amlwg i chi, cyn pen dim, fod seicoleg yn gwneud cyfraniad hollbwysig i bob agwedd ar fywyd pob dydd. Mae graddedigion seicoleg yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd eu gwybodaeth am ymddygiad dynol, a’u sgiliau academaidd, megis y gallu i ddadansoddi’n feirniadol wrthrychol, er enghraifft, yn ogystal â sgiliau ymchwil gwerthfawr. Mae hi’n fyd cystadleuol iawn, ac mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â sgiliau allweddol trosglwyddadwy. Mae astudio seicoleg yn rhoi i chi’r sgiliau sylfaenol angenrheidiol ar gyfer y farchnad swyddi yn yr 21 ganrif.