Achrededig gan y BPS

Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yw’r corff cynrychioladol ar gyfer seicoleg a seicolegwyr yn y DU.

Mae Seicoleg yn Aberystwyth wedi’i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ers 2013

Mae’r Gymdeithas yn gyfrifol am hyrwyddo rhagoriaeth ac arferion moesegol yng nghymwysiadau gwyddonol, addysgol ac ymarferol y ddisgyblaeth.

Mae ein holl gyrsiau wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, sef arwyddnod ansawdd a gydnabyddir yn eang ymhlith cyflogwyr yn y byd proffesiynol sy’n rhoi’r cyfle i raddedigion yr adran ddod yn aelodau Graddedig o’r gymdeithas. Mae achrediad y BPS yn bwysig i fyfyrwyr sydd am amlhau i’r eithaf eu dewisiadau ar gyfer y dyfodol.

Manteision dewis cwrs sydd wedi’i achredu gan y BPS:

  • Mae’n arwyddnod ansawdd y mae cyflogwyr yn ei ddeall ac yn ei werthfawrogi
  • Mae’n rhoi cyfle i ddod yn aelod Graddedig a/neu Siartredig o Gymdeithas broffesiynol
  • Mae’n agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi, datblygu a chyflogaeth.

I gael gwybod rhagor am y BPS a’i dylanwad ym maes Seicoleg, gweler: bps.org.uk

Aelodaeth Myfyrwyr y BPS

Mae Aelodaeth Myfyriwr y BPS yn agored i bawb sydd yn astudio cyrsiau gradd yr adran sydd wedi’u hachredu gan y BPS.

  • tanysgrifiad digidol i The Psychologist a PsychTalk
  • aelodaeth o’ch cangen leol, a fydd yn darparu cyfleoedd rhwydweithio a gwybodaeth werthfawr i chi ar gyfer eich astudiaethau
  • gostyngiadau unigryw ar lyfrau, digwyddiadau ac e-ddysgu
  • mynediad am ddim ar-lein i archif y Gymdeithas o gyfnodolion academaidd
  • cyfle i newid i aelodaeth graddedig yn rhad ac am ddim ar ôl cwblhau eich gradd israddedig

To find out other benefits and sign up,
gweler tudalen aelodaeth myfyrwyr y BPS