Dysgu a Chymorth
Dysgu sy’n Canolbwyntio ar y Myfyriwr
O ran beth rydym yn ei ddysgu a sut rydym yn eich dysgu chi, mae’r staff i gyd wedi ymrwymo i ddull o ddysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan roi blaenoriaeth i’ch anghenion dysgu chi. Bydd eich darlithwyr yn weithredol yn eu meysydd ymchwil a byddant yn defnyddio darganfyddiadau’r ymchwil ddiweddaraf yn eu gwaith dysgu.
Drwy gydol eich gradd bydd disgwyl i chi hefyd chwarae rhan weithredol yn eich dysgu eich hun a bydd y staff yn gwneud y gwaith yn ysgogol a heriol. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu, o ddarlithoedd traddodiadol i sesiynau dysgu sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau, yn ogystal â gweithdai a sesiynau ymarferol. Byddwch hefyd yn dysgu i brofi’ch syniadau eich hun a meddwl am eich profiadau.
O ran asesu, bydd arholiadau ffurfiol, ar amryw o ffurfiau, ac ystod o wahanol fathau o waith cwrs yn gyfle i chi ddatblygu’ch sgiliau academaidd ac yn rhoi cyfle i chi a ni asesu’ch cynnydd.
Mae rhai myfyrwyr yn dechrau eu cyrsiau gyda syniadau clir am beth i’w wneud wedi graddio, ond nid yw eraill mor sicr am lwybr eu gyrfa. Ond i bawb, mae proses y brifysgol yn canolbwyntio ar eu datblygiad deallusol a phersonol. Yn ystod eich amser gyda ni fe gewch gymorth â phob agwedd ar eich bywyd yn y brifysgol er mwyn dod o hyd i’r llwybr rydych am ei gymryd.
Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Os yw’r Gymraeg yn famiaith i chi neu os teimlwch yn fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg, fe fydd digon o gyfle i ategu’ch gwaith dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall seicoleg fod yn bwnc technegol ac efallai y bydd rhai yn ei chael hi’n haws trafod a dysgu drwy’r Gymraeg.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth ymroddiad cryf i ddysgu drwy’r Gymraeg, ac mae wedi nodi Seicoleg fel maes o bwys arbennig o ran darpariaeth Gymraeg a datblygu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly mae’r Adran Seicoleg wedi ennill Cymrodoriaeth Dysgu Cyfrwng Cymraeg gan y Ganolfan Dysgu Cyfrwng Cymraeg i gynorthwyo gwaith dysgu yn y Gymraeg a datblygu’r ddarpariaeth.
Os hoffech ddatblygu eich gallu i ddeall seicoleg drwy’r Gymraeg fe gewch gyfle i ymuno â grwpiau seminar a thiwtora yn y Gymraeg. Am ragor o wybodaeth am wasanaethau’r Gymraeg yn Aberystwyth a sut y gallai gweithio drwy’r Gymraeg eich helpu i ddysgu a gwireddu eich potensial yn eich gradd, gweler ‘Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg’ http://www.aber.ac.uk/canolfangymraeg
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano ar y tudalennau hyn, cysylltwch â ni a byddwn ni’n hapus i ateb eich ymholiadau.