Pam dewis Seicoleg?

Mae seicoleg yn gofyn i chi ddatblygu’ch dealltwriaeth o’r strwythur cymhlethaf oll - yr ymennydd dynol. Byddwch yn dysgu am sut mae’n gweithio a sut mae’n dylanwadu ar bob agweddau ar weithredoedd pobl. Fel rhan o’ch astudiaethau gyda ni ym mhob un o’n cynlluniau gradd, cewch ddealltwriaeth o gymhlethdodau ymddygiad pobl a byddwch yn dechrau deall pam rydym yn ymddwyn fel yr ydym. P’un yw’r dylanwad cryfaf - ein genynnau ynteu’r gymdeithas? Beth yw’r ffordd orau o ddatrys anghydfod? Pam mae dysgu iaith arall yn gymaint o her i oedolyn?


O’r cychwyn cyntaf, bydd eich gradd yn cyflwyno i chi brif syniadau, damcaniaethau a chanlyniadau ymchwil seicoleg gyfoes. Cewch gyflwyniad i gysyniadau craidd seicoleg gymdeithasol, gwahaniaethau unigol, seicoleg fiolegol a byddwn yn dechrau datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ymchwilio i ymddygiad pobl, gan ddysgu’r dulliau ymchwil a ddefnyddir gan seicolegwyr. Mae pob blwyddyn astudio yn ein graddau wedi’u cynllunio’n ofalus er mwyn i chi allu datblygu eich ffordd o feddwl am seicoleg a’i mireinio, gan eich herio a’ch ymestyn wrth i chi weithio tuag at eich gradd.

Cyfleoedd Gyrfaol

Mae astudio seicoleg yn rhoi addysg gyffredinol ardderchog, ac mae graddedigion seicoleg yn mynd ymlaen i amrywiaeth o swyddi ym meysydd dysgu, diwydiant, y gwasanaethau cymdeithasol, y cyfryngau, technoleg gwybodaeth, cyfrifiadureg, marchnata ac yn asiantaethau’r llywodraeth. Mae sgiliau trosglwyddadwy, sy’n bwysig iawn i gyflogwyr, yn rhan annatod o’r holl gynlluniau gradd seicoleg.

Byddwch yn datblygu medrau mewn meysydd hanfodol i’ch gyrfa gan gynnwys sgiliau ymchwil uwch, datrys problemau, ymdrin â data a’i ddadansoddi, cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar a sgiliau gweithio mewn grŵp.

Mae dwy draean o raddedigion seicoleg yn cael swydd ymhen tri mis ar ol graddio, ac mae chwarter arall yn mynd ymlaen i astudiaethau ol-raddedig. Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu mai dim ond 15% o raddedigion seicoleg yn mynd ymlaen i gymwysterau seicoleg ol-radd sy'n gofyn am gael gradd sydd wedi'i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).

Mae'r holl gynlluniau gradd anrhydedd wedi'u cynllunio yn unol a gofynion seicolegol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA). Ar ben hynny, mae'r cynlluniau gradd i gyd yn rhoi sylfaen ar gyfer Cofrestru ar sail Gradd (GBR) drwy gyrsiau trosglwyddo achrededig. Nid yw Prifysgol Aberystwyth wei gwneud cais am achrediad hyd yn hyn ond disgwylir y bydd yn cyflwyno cais yn y dyfodol agos. I ddysgu mwy am achrediad y BPS yn Aberystwyth mae llyfryn cwestiynau cyffredin byr ar gael i lawr lwytho gan ddefnyddio'r linc ddilynol BPS FAQ Cymraeg.

I'r rhai sydd am barhau i weithio gyda seicoleg, efallai y byddai gyrfa yn un o'r meysydd hyn at eich dant:

  • Seicoleg Glinigol
  • Seicoleg Addysg
  • Seicoleg Iechyd
  • Seicoleg Cwsmeriaid
  • Seicoleg Alwedigaethol
  • Seicoleg Fforensig
  • Seicoleg Chwaraeon

Mae'r brifysgol yn cynnig cyngor gyrfaol ardderchog i'r myfyrwyr hynny sydd a llwybr gyrfaeol penodol yn ogystal a'r rhai sy'n ansicr beth i'w wneud ar ol graddio. O fynonellau eraill hefyd mae cymorth a chyngor ar gael ar sgiliau astudio neu anawsterau personol, cyngor ar bryderon ariannol, yn ogystal a sut i gymryd y camau cyntaf pwysig i'ch bywyd proffesiynol ar ol eich gradd. Mae'r gwasanaethau hyn i gyd ar gael drwy'r gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar y campws, sy'n cynnwys y Gwasanaethau Cyngor i Fyfyrwyr, Cynllun Mentora "Ffordd hyn", a'r Ganolfan Iaith a Dysgu.

Gofynion Mynediad

Os credwch mai gradd anrhydedd mewn seicoleg yw’r dewis iawn i chi, naill ai’n sengl neu’n gyfun, 260 o bwyntiau UCAS, gan gynnwys 2 Safon A, yw ein cynnig safonol. Bydd angen o leiaf C ar lefel TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg ac mewn mathemateg. Rydym yn derbyn ystod eang o gymwysterau eraill hefyd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn. Byddant yn cael eu hasesu fesul achos unigol, fel arfer drwy gyfweliad. Byddem yn disgwyl gweld tystiolaeth o astudio diweddar gan fyfyrwyr hŷn: cwrs Mynediad i Addysg Uwch, er enghraifft. Mae mwy o wybodaeth am yr holl ofynion mynediad ar gael ar y tudalennau Gwybodaeth i Israddedigion.