Proffiliau Myfyrwyr
Diane Jones
Cymerodd Diane ddau fodiwl dewisol mewn seicoleg, a’u mwynhau gymaint fel ei bod wedi dod yn ôl am fwy. Erbyn hyn mae Diane wedi cofrestru ar ein cynllun gradd anrhydedd cyfun, Seicoleg gyda Geneteg ac Iechyd Dynol, a ddechreuodd ym mis Medi 2008.
Mae Diane yn dweud:
“Mae’r dysgu yn cyfuno darlithoedd a sesiynau ymarferol â seminarau bob yn ail wythnos, sy’n golygu y cewch astudio’r pwnc yn fanylach. Mae’r seminarau yn defnyddio dulliau arloesol o ddysgu megis arbrofion anffurfiol, gemau a phosau, ac mae’n ffordd wych o drin a thrafod y pwnc – fyddwch chi byth yn anghofio’r hyn ddysgoch chi. Mae’r staff yn frwd ac yn barod i helpu ac mae eu hymatebion i’ch gwaith yn eich helpu i ddod o hyd i’ch cryfderau a’ch gwendidau.
Roedd y syniad o astudio Seicoleg gyda Geneteg ac Iechyd Dynol yn apelio oherwydd y pynciau llosg fel ‘natur neu fagwraeth’ a ‘geneteg neu amgylchedd’ yn ogystal â chwestiynau megis ‘A gawsom ein geni gyda thueddiadau treisgar, neu ydym yn eu dysgu?’; ac ‘ydy troseddwyr yn cael eu geni neu’i ffurfio?’ ac felly roedd hi’n ddewis rhesymegol imi gyfuno’r ddau bwnc.
Pa bwnc bynnag rydych yn ei ddewis i radd gyfun, byddwn i’n argymell Seicoleg yn gryf. Mae’r deunydd yn ysbardun i’r meddwl ac mae’n debyg y cewch olwg gwahanol ar y bobl rydych yn cwrdd â nhw, a dealltwriaeth well ohonoch chi’ch hun.”
Hannah Polland
Mae Hannah yn fyfyrwraig yn astudio Seicoleg a Saesneg ar hyn o bryd. Mae ar fin dechrau ei hail flwyddyn.
Mae Hannah yn dweud:
“Cyn dechrau’r cwrs Seicoleg yn Aber, doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl gan nad oeddwn i erioed wedi astudio’r pwnc o’r blaen. Gallaf ddweud, yn hollol ddiffuant, mai dechrau’r cwrs hwn oedd y penderfyniad gorau wnes i o ran addysg. Mae wedi mynd ymhell y tu hwnt i’m disgwyliadau, ac rwyf wedi llwyr fwynhau pob modiwl a astudiais hyd yn hyn. Mae’r modiwlau hyd yma yn ysgogiad i’r meddwl ac yn ddiddorol. Mae brwdfrydedd y darlithwyr, a’u hymroddiad a’u parodrwydd i helpu drwy gydol y flwyddyn, wedi creu argraff fawr arnaf i. Mae’r radd yn cyd-fynd yn dda â’m cwrs Llenyddiaeth Saesneg, ac mae wedi rhoi llawer o syniadau ynghylch sut mae dadansoddi testunau yn seicolegol ar wahanol adegau yn y cwrs. Rwy’n argymell y cwrs hwn yn gryf i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc ... chewch chi ddim mo’ch siomi!”