Cysylltu â ni

Yr Adran Seicoleg
Adeilad P5
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UX

Ffôn: 01970 628444 
Ffacs: 01970 628781 
Ebost: psychology@aber.ac.uk

Os ydych yn fyfyriwr a hoffai mynegi barn ar fannau y gall y Brifysgol wella er mwyn gwella eich profiad myfyriwr, a wnewch chi ddefnyddio'r ffurflen Rho Wybod Nawr os gwelwch yn dda.

Sut mae’ch Adran wedi ymateb i’ch adborth

Bydd y Brifysgol yn prosesu’r data personol a gasglwyd drwy’r ffurflen hon ar sail eich caniatâd (Erthygl 6(1)(a) GDPR). Bydd eich data personol yn cael ei basio i’r adran yn y Brifysgol sydd fwyaf addas i ymdrin â’ch cyfathrebiad. Efallai y byddant yn cysylltu â chi mewn ymateb i hyn, ond gallwch optio allan o dderbyn rhagor o negeseuon ar unrhyw adeg.

Sut i gael hyd i Seicoleg a Phenbryn 5

Mae Penbryn 5, sy newydd ei adnewyddu, yn gartref bellach i'r adrannau Seicoleg ac Addysg. Lleolir Seicoleg ar lefel 1 ac Addysg ar lefel 2.

Sut i gyrraedd Penbryn 5 o fynedfa campws Penglais:

  1. O'r fynedfa i'r campws, ewch ymlaen a heibio i dderbynfa'r campws.
  2. Ewch ymlaen hyd y cyrhaeddwch chi'r groesffordd gyntaf - trowch i'r chwith ac ewch i fyny'r bryn.
  3. Byddwch chi'n mynd heibio i TaMed Da, un o'r bwytai ar y campws. Daliwch ymlaen i fyny'r llwybr hyd y cyrhaeddwch chi'r groesffordd gyntaf.
  4. Ewch i'r chwith yma. Ewch ymlaen am 10-20 medr.
  5. Ewch i lawr y llwybr cyntaf ar ochr chwith y ffordd.
  6. Ewch ar hyd y llwybr: mae e'n arwain yn uniongyrchol at fynedfa Penbryn 5, adeilad yr adrannau Seicoleg ac Addysg.

Map