Seicoleg yn y tri uchaf mewn pôl bodlonrwydd myfyrwyr y DU

09 Awst 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o’r tri lle gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr ymysg israddedigion Seicoleg yn eu blwyddyn olaf.

Dengys canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) bod boddhad cyffredinol yn yr Adran Seicoleg yn 96%, gan ei gosod yn y tri uchaf o 109 o adrannau tebyg yn y DU.

Roedd bodlonrwydd myfyrwyr gydag asesiad ac adborth yn Seicoleg yn 92% (y gorau yn y DU), cymorth academaidd 93% (y gorau yn y DU), adnoddau dysgu (2il yn y DU) a chyfloed dysgu 91% (2il yn y DU).

Yn ogystal, rhoddodd y myfyrwyr sgoriau trawiadol o uchel i ddau o brif gyrsiau gradd israddedig yr Adran.

Derbyniodd ein cwrs gradd C800 Seicoleg sgôr bodlonrwydd myfyrwyr eithriadol o 97% a’r cwrs CM89 Seicoleg a Throseddeg 91%.

Dywedodd yr Athro Nigel Holt, Pennaeth Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth: "'Roedd canlyniadau ein ACF yn 2016 yn eithriadol mewn Seicoleg, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos bod y gwasanaeth rhagorol i fyfyrwyr yn gyson i’w ddisgwyl gennym ni yma. Mae'r ffigur pennaf o foddhad o 96% yn gyffredinol yn adlewyrchiad o'n haddewid o ragoriaeth i fyfyrwyr ond y ffigyrau manwl yw'r rhai sy’n hawlio fy sylw i. O'i gymharu â’r 109 arall yn y sector, rydym ar y brif mewn llawer o feysydd. Mae'n adlewyrchiad o frwdfrydedd staff a myfyrwyr yma yn Aber ac mae’n dangos sut mae’n staff rhagorol yn helpu i feithrin a datblygu’r profiad myfyrwyr a’r modd y maent yn dysgu yma yn Seicoleg.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a darganfod pam fod ein myfyrwyr mor fodlon â'u cyrsiau, nid yw'n rhy hwyr. Mae gennym rai lleoedd clirio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18 neu dewch draw i ymweld â ni yn ystod un o'n Diwrnodau Agored.

Cyrsiau Seicoleg drwy Clirio

• Diwrnodau Agored

Mae’r hyn a gyflawnwyd gan yr Adran Seicoleg yn rhan o stori lwyddiant ehangach ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cael ei nodi fel y gorau yng Nghymru ac yn un o'r pum sefydliad addysg uwch uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol yn ôl ACF 2017.

Mae'r arolwg yn dangos bod boddhad cyffredinol ymhlith myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 91% - saith pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 84%.

• Stori Newyddion: Stori Llwyddiant ACF Prifysgol Aberystwyth

Mae ffigurau'r ACF yn dilyn yn agos ar sodlau'r ffigyrau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer prifysgolion y DU a ddangosodd fod 98% o raddedigion Seicoleg mewn gwaith neu astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio yn 2016.

• Ffigurau Cyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr bob blwyddyn gan IPSOS Mori ar ran cynghorau cyllido addysg uwch y DU a chyfwelir â mwy na 300,000 o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gofynnir i fyfyrwyr pa mor fodlon ydynt gyda’u prifysgol ar draws ystod eang o fesurau, gan gynnwys ansawdd yr addysgu, asesu ac adborth, cefnogaeth academaidd, trefn a rheolaeth, adnoddau dysgu, y gymuned addysgu a llais myfyrwyr.

Mae safleoedd Prifysgol Aberystwyth yn seiliedig ar y cwestiwn boddhad cyffredinol ac yn defnyddio'r rhestr o sefydliadau addysg uwch sydd yn ymddangos yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2018.