Cyfres o Seminarau Ymchwil Seicoleg

Mae’n bleser gennym groesawu’r siaradwyr gwadd isod i Aberystwyth am seminarau cyntaf y flwyddyn academaidd hon. Mae’r seminarau ar agor i’n holl gydweithwyr a myfyrwyr yn y Brifysgol. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.

Seminarau Ymchwil Seicoleg 2011/2012

The face of dispute: When does the human brain distinguish between visual object categories?

Siaradwr: Dr Guillaume Thierry, Prifysgol Bangor

Wyneb dyn yw’r dosbarth o wrthychau a astudir fwyaf yn y niwrowyddorau gweledol. Wrth chwilio am ddangosyddion prosesu wynebau, mae astudiaethau potensial sy’n gysylltiedig â digwyddiad wedi dadlau a yw dau benllanw gweithgareddau – P1 ac N170 – yn ddethol o ran y categori. Byddaf yn cyflwyno’n fyr setiau data o chwe astudiaeth yn cynnwys cynlluniau arbrofol yn ddau a dau sy’n dangos bod osgled cymedrig P1 yn gwahaniaethu’n sylweddol rhwng wynebau  a cheir – categori o wrthrychau a gymharir yn aml ag wynebau – yn annibynnol ar fodyliadau a gafwyd drwy amrywioldeb rhyng-stimwlws, torri nodweddion allanol, a morffio rhwng categorïau: (1) Trwy drafod amrywioldeb rhyng-stimwlws a gynhyrchwyd ar hap (uchel yn erbyn isel) a chategori’r gwrthrych (ceir, wynebau, ieir bach yr haf), dangosaf fod P1 yn sensitif (yn wan) i amrywioldeb ond yn gadarn wrth ddewis categori, ond bod yr N170 yn annisgwyl yn dangos patrwm ymateb i’r gwrthwyneb (Thierry et al. 2007; Dering et al., 2009). (2) Trwy drafod cyfanrwydd stimwlws trwy ddileu nodweddion ffiniol wynebau (gwallt, clustiau, a’r gwddf) a cheir (y to, drychau adain, a’r olwynion), dangosaf fod torri yn artiffisial yn cynyddu osgled N170 ond nid P1 ac yn gadael sensitifrwydd P1 i gategori yn gyflawn. (3) Wrth forffio golwg o’r blaen o wynebau a cheir i wahanol raddau, mae detholrwydd categori P1 yn gwrthsefyll 30% o ddifwyno un categori trwy wybodaeth weledol o’r categori arall, ond mae’r N170 yn methu ymateb i’r wybodaeth am yr wyneb sy’n rhan o’r stimwlws. I grynhoi, mae penllanw N170 o botensial ymennydd sy’n gysylltiedig â digwyddiad gweledol yn sensitif iawn i ffactorau heblaw categori’r gwrthrych, tra bo osgled P1 yn cael ei fodiwleiddio mewn modd dethol wyneb mor gynnar â 100 ms ar ôl i’r llun ymddangos.

Bywgraffiad: Athro Niowyddorau Gwybyddol a Chyfarwyddwr Arloesi i’r prosiect Pontio. Trwy ddefnyddio seicoleg arbrofol, delweddu’r ymennydd yn weithredol a Photensial sy’n gysylltiedig â digwyddiadau, mae Dr Thierry yn arwain gwaith ymchwil i ddeall iaith yn y dulliau clywedol a gweledol.

Dylai’r sgwrs hon fod o ddiddordeb i bob myfyriwr Seicoleg, yn arbennig y rheiny sy’n ymddiddori yn seicoleg wyboddol, ac mae’n elfen ychwanegol o PS11220.

Dyddiad:Ebrill 23ain, 5-6 y.h.

Lleoliad:Physics Main

The Pleasure Pursuers:  Examining new female sexual subjectivities

Siaradwr: Dr Adrienne Evans, Prifysgol Coventry

Crynodeb: Mae’r papur hwn yn enwi’r ‘gwrthrych rhywiol newydd’; menyw sy’n hyderus o ran ei hunaniaeth rywiol ac yn graff o ran nwyddau rhywiol. Mae arferion prynu’r gwrthrych, sydd wedi’u gosod yng nghyd-destun diwylliant sy’n fwyfwy rhywioledig ac yn erbyn cefndir o neoryddfrydiaeth, ôl-ffeminyddiaeth a diwylliant prynu, yn cynrychioli’r symud o fenyweidd-dra goddefol tuag at hunaniaeth rywiol ymwybodol, eofn a ‘pharod amdani’. Mae’r papur yn seiliedig ar ddata a gasglwyd mewn cyfres o grwpiau ffocws a ysbrydolwyd gan ymholi cydweithredol gyda phedair menyw wen, wahanrywiol o’r dosbarth canol. Fe wnaeth y cyfranogwyr eu cyflwyno eu hunain yn ddilynwyr pleser hedonistaidd, gwybodus. Ond roedd eu hunaniaethau wedi’u seilio ar gymariaethau ag eraill, gan osod y cyfranogwyr yn well na rhai menywod y byddai eu hoedran, eu dosbarth, eu gwybodaeth neu eu chwaeth yn golygu eu bod yn cynrychioli’r safon o sut i beidio ag ymgysylltu â rhywioldeb; ond ddim cystal ag enwogion a feddai ar well adnoddau na’r cyfranogwyr. Wrth iddynt greu delwedd o’u hunain yn arbenigwyr gwybodus bob amser, ond wrth iddynt hefyd fethu o gymharu ag eraill, byddai’r menywod hyn bob amser yn ymddangos yn ddilynwyr pleser – a byth yn meddu arno.

Bywgraffiad: Mae Adrienne Evans yn Uwch-Ddarlithydd ym maes y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Coventry. Mae ganddi nifer o gyhoeddiadau ar ddiwylliant rhywioledig gan gynnwys y llyfr a fydd yn ymddangos cyn hir, Evans, A. & Riley, S. (2013). Technologies of Sexiness: Sex, Identity and Consumption. Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen, UDA. Dylai’r sgwrs hon fod o ddiddordeb i bob myfyriwr Seiecoleg, yn arbennig y rheiny sy’n ymddiddori yn seicoleg gymdeithasol, dulliau ansoddol a rhywedd. Cynghorir myfyrwyr yr ail flwyddyn sy’n bwriadu dewis ‘21st Century Self’ yn y flwyddyn olaf i fynychu yn ogystal.

Dyddiad: Mawrth 22ail, 5-6 y.h.

Lleoliad: Edward Llwyd, 0.26 Bio Main

Seminarau Blaenorol

Y defnydd o fethodoleg meicro-genetaidd i fesur datblygiad cydweddol mewn plant cyn oedran ysgol

Bydd Charoltte Greenway yn trafod sut mae techneg meicro-genetaidd sydd yn cael ei defnyddio fel dyluniad ymchwil yn arwain at gael gwybodaeth fanwl am newidiadau penodol mewn datblygiad dynol. Yn benodol, bydd Ms Greenway yn trafod ei ddefnydd wrth astudio datblygiad cydweddol plant cyn oedran ysgol a sut mae'r dechneg wedi galluogi ymchwilwyr i ddilyn datblygiad unigolion ar draws yr ystod oedran a oedd yn cael ei astudio.

Dyddiad: Dydd Mercher, 9fed o Fawrth, 17:00 tan 18:00

Lleoliad: A14

Cliciwch yma i weld y recordiad

Play, language and Graphics

Sut mae iaith plant yn rhagddweud chwarae a darlunio? Dr Julie Kirkham o'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cyflwyno ymchwil sydd yn astudio'r berthynas gyfredol a phroffwydol rhwng datblygiad mewn meysydd graffigol, iaith a chwarae symbolaidd o'r bedwaredd i'r bumed flwyddyn mewn plant; croeso i staff a myfyrwyr fynychu.

Cliciwch yma i weld y recordiad

Mindfulness practice for well-being and psychological change

Dr Peter Malinowski o Brifysgol John Moore Lerpwl yn trafod ei waith ar 'Mindfulness-based interventions'.

Cliciwch yma i weld y recordiad

Inferences in language comprehension: The Psycholinguistics of Gricean implicatures

What is communicated can be broken down into what we say and what we imply (Grice, 1969).  Dr. Lewis Bott will present new research that investigate this issue by testing how the Gricean notion of default communication applies to sentence processing.

Motion can amplify the face inversion effect

Siaradwraig Wadd: Yr Athro Ian Thornton

Yr Athro Ian Thornton o Brifysgol Abertawe yn gwneud cyflwyniad i Fforwm Ymchwil Seicoleg ar "The human face in motion." Cynhelir y cyflwyniad rhwng 5.30 a 7.30 yr hwyr yn Ystafell y Bwrdd, yr Adeilad Delweddu. Bydd yr Athro Thornton yn trafod agweddau unigryw o wynebau dynol ar sail eu cymhlethdod a'u perthnasoldeb cymdeithasol.

Seminarau o 2008/09

The Margins of Hegemonic Military Masculinities

Siaradwraig Wadd: Dr Hannah Hale

Lleoliad: Prif Neuadd Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Podcast of Dr Hannah Hale discussing male masculinities within the British forces

Deception and Strategic Decision-Making

Siaradwraig Wadd: Dr Rachel Taylor

Lleoliad: Prif Neuadd Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Podcast of Dr Rachel Taylor presenting about the strategies and motivation behind deception

Living with Genetic Risk of Cancer: Some Problems, Some Solutions 

Dydd Mercher, 11 Chwefror 2009 am 17:45

Siaradwr Wadd: Prof Paul Bennett